Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adolygu Gostyngiad Person Sengl

Published: 12/08/2014

Bydd y rheiny syn talu Treth y Cyngor yn Sir y Fflint ac yn derbyn gostyngiad o 25 y cant oddi ar eu bil oherwydd eu bod nhw’n byw ar eu pen eu hunain yn cael eu gwirio gyda hyn i wneud yn siwr bod y gostyngiadau yn gywir. Bydd Northgate Information Solutions UK Ltd, darparwr gwasanaeth blaenllaw syn arbenigo yn yr adolygiadau hyn, yn gweithio efo Experian, asiantaeth gwirio credyd, ac yn defnyddior dechnoleg paru data ddiweddaraf i gadarnhau’r gostyngiad ar gyfer hawlwyr gwirioneddol ac i ganfod pobl syn hawlio’r disgownt yn anghywir neu drwy dwyll. Ar hyn o bryd mae yna dros 21,000 o drigolion (bron i un o bob tri chartref) yn hawlio gostyngiad person sengl. Er bod y mwyafrif helaeth or trigolion yma yn hawlior disgownt yn gywir, efallai bod yna achosion lle nad ywr Cyngor wedi cael gwybod am newid mewn deiliadaeth cartref a all effeithio ar y gostyngiad neu lle hawlir y gostyngiad trwy dwyll. Lle canfyddir hawliadau anghywir, bydd y Cyngor yn dod â’r gostyngiad i ben ac yn ceisio adennill yr arian o’r dyddiad priodol. Mae’r adolygiad yma yn dilyn prosiect tebyg a gynhaliwyd yn 2011-12, a nododd fod gwerth £190,000 o ostyngiadau yn cael eu hawlio’n anghywir. Anogir unrhyw drethdalwr sy’n derbyn gostyngiad anghywir i gysylltu â Gwasanaeth Treth y Cyngor ar unwaith ar 01352 704848 cyn i’r adolygiad llawn ddechrau ym mis Medi.