Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgolion Sir y Fflint yn dathlu Canlyniadau Safon Uwch

Published: 14/08/2014

Mi fydd yna ddathlu mawr yn Sir y Fflint heddiw wrth i ddosbarthiadau 2014 dderbyn eu canlyniadau Lefel A. Mae’r Awdurdod Lleol wedi derbyn canlyniadau cyfanredol Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru (CBAC) ac maent yn dangos bod 98.6% o’r rheiny sydd wedi sefyll arholiad CBAC yn Sir y Fflint wedi llwyddo, cynnydd o 0.5% ers y llynedd (98.1%). Unwaith eto, mae cyfraddau llwyddo Sir y Fflint gyda CBAC yn cymharun dda â chyfraddau llwyddo Lefel A Cymru gyfan, sy’n 97.5% eleni (0.1% yn is nag yr oedd yn 2013). Mae cynnydd hefyd wedi ei wneud ar raddau A* i C gyda 79.0% o ymgeiswyr yn ennill y graddau yma yn Sir y Fflint yn 2014, o gymharu â 76.3% yn 2013 a 71.6% yn 2012. Derbyniodd 18.1% o ymgeiswyr CBAC Sir y Fflint radd A* neu A, o gymharu â 21.0% yn 2013 a 23.3% ar draws Cymru gyfan. Mae canran Sir y Fflint wedi cael hwb sylweddol eleni gan fod canlyniadau’r Fagloriaeth Gymreig wedi eu hychwanegu. Mae ymgeiswyr llwyddiannus yn ennill cymhwyster sy’n cyfateb â gradd A. Mae oddeutu hanner ymgeiswyr Lefel A Sir y Fflint yn sefyll arholiadau CBAC. Bydd canlyniadau byrddau eraill ar gael yn ddiweddarach heddiw. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg: “Ar ôl derbyn yr wybodaeth am ymgeiswyr Bwrdd Arholi CBAC, maer Cyngor yn ymuno â rhieni, gwarcheidwaid ac ysgolion i ddathlu eu canlyniadau Lefel A, ac yn llongyfarch yr holl fyfyrwyr ar athrawon am eu gwaith caled au llwyddiant. “Mae myfyrwyr Sir y Fflint wedi gweithion galed i ddilyn rhaglenni astudio heriol. Rwyf yn falch iawn ohonyn nhw, a dymunaf bob llwyddiant iddyn nhw i’r dyfodol wrth iddyn nhw adeiladu ar y canlyniadau hyn yn y brifysgol, y coleg neu ddilyn cwrs hyfforddi neu yrfa.” Dywedodd Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid, Ian Budd: “Maer canlyniadau hyn yn dangos yn glir y dull cyfrifol ac ymroddedig y mae myfyrwyr Sir y Fflint yn ei ddangos tuag at eu hastudiaethau. Llongyfarchiadau iddyn nhw i gyd, a rhaid hefyd diolch i’w hathrawon, rhieni a’u gofalwyr am eu cefnogaeth gyson. Maer canlyniadau, unwaith eto, yn newyddion da i bobl ifanc Sir y Fflint a’u teuluoedd ac i ddyfodol ein cymunedau. Nodyn ir Golygydd Ar adeg cyhoeddi’r datganiad hwn, maer wybodaeth a roddir yn seiliedig ar wybodaeth gan Fwrdd CBAC yn unig. Rydym ni’n aros am fanylion gan ysgolion ynghylch y darlun cyffredinol unwaith y bydd data byrddau arholi Lloegr (nad yw ar gael yn ganolog i Awdurdodau Addysg Lleol Cymru) wedi ei brosesu. Maen bwysig nodi bod oddeutu hanner ymgeiswyr Sir y Fflint wedi sefyll arholiadau CBAC, maer lleill wedi sefyll arholiadau Byrddau Lloegr.