Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llyfrgell ac Amgueddfar Wyddgrug
Published: 27/08/2014
O ddydd Llun 1 Medi bydd yna newidiadau ir oriau agor yn Llyfrgell ac
Amgueddfa’r
Wyddgrug.
Bydd y lleoliad ar agor yn hwyrach ar nos Lun a nos Iau 9.30am tan 7.00pm a
9.30am tan 5.00pm ar ddydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Gwener. Bydd y llyfrgell
ar amgueddfa yn parhau i agor rhwng 9.30am a 3.00pm ar ddydd Sadwrn.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod y Cabinet dros Addysg: Maer newid
yn yr oriau agor yn seiliedig ar batrymau defnydd cwsmeriaid ac rydym yn
hyderus y bydd yr oriau newydd yn parhau i gynnig oriau agor cyfleus i
ddefnyddwyr y llyfrgell ac ymwelwyr âr amgueddfa.
Mae llyfrgelloedd ledled Sir y Fflint wedi bod yn brysur dros yr haf gyda
phlant yn cymryd rhan yn y Chwilfa Chwedlau, Sialens Ddarllen yr Haf. Mae plant
syn cymryd rhan yn Llyfrgell yr Wyddgrug yn cael eu hannog i gwblhaur her
ddarllen erbyn dydd Sadwrn 13 Medi pan fydd y medalau’n cael eu cyflwyno rhwng
9.30am a 2.30pm.
I gael gwybodaeth am ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer oedolion neu
blant, cysylltwch â Llyfrgell yr Wyddgrug ar 01352 754791 neu
mold.library@flintshire.gov.uk