Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwybr Arfordir Cymru Gyfan

Published: 27/08/2014

Bydd rhan o Lwybr Arfordir Cymru Gyfan yn ailagor mewn pryd ar gyfer penwythnos gwyl y banc mis Awst ar ôl misoedd o fod ar gau. Oherwydd y llifogydd yn gynharach eleni roedd rhaid i Gyngor Sir y Fflint gau nifer o rannau or llwybr yn Sir y Fflint o ganlyniad i doriadau yn yr amddiffynfeydd rhag llifogydd. Llwybr cyhoeddus Rhif 77 ym Magillt, a gaiff ei adnabod yn lleol fel Panton Cop, ywr olaf or rhannau a gafodd eu cau sydd wedi’i adfer ac mae wedi bod ar gau am wyth mis o ganlyniad i nifer o doriadau yn yr arglawdd. Mae gwaith wedi ei wneud syn sicrhau y bydd y rhan fawr hon o Lwybr Arfordir Cymru Gyfan yn Sir y Fflint yn agored ac ar gael i ddefnyddwyr mewn pryd ar gyfer penwythnos gwyl y banc. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: “Maen wych gweld y llwybr wedi’i ailagor o’r diwedd ac yn barod ir cyhoedd ei fwynhau dros benwythnos gwyl y banc. Mae Llwybr Arfordir Cymru Gyfan yn mynd â thrigolion ac ymwelwyr drwy fannau gwych yn y Sir ac yn arddangos hanes gwych yn ogystal â rhoi cyfle i’r cyhoedd gerdded drwy rannau hyfryd o gefn gwlad.