Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Pabell y ddwy sir yn ennill anrhydedd yn y sioe

Published: 22/08/2014

Rhoddwyd anrhydedd i ymdrechion Cynghorau Sir Ddinbych a Sir y Fflint i hyrwyddo trysorau twristaidd cudd y ddwy sir yn Sioe Amaethyddol Dinbych a Fflint ddoe (dydd Iau, 21 Awst). Mae’r ddau gyngor wedi uno dros y saith mlynedd diwethaf i gynnal pabell ar y cyd ar gaer sioe, a ‘Trysorau Cudd:  Ar Stepen Eich Drws’ oedd y thema eleni. Roedd yr arddangosfa yn cynnwys llefydd i’w hymweld yn y ddwy sir, ac yn hyrwyddo Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.    Roedd yr arddangosfa yn cynnwys traeth bychan, gwneud barcud a bathodynnau a chloddfa fechan i hyrwyddo cysylltiadau archeolegol y rhanbarth a chrëwyd wal garreg sych i hyrwyddo gwaith rheoli cefn gwlad syn diogelu a gwella ein cefn gwlad golygfaol.   Trefnwyd cystadleuaeth ar gyfer disgyblion ysgol i ddylunio eu posteri eu hunain i hyrwyddo lleoliadau yn yr ardal.  Roedd y ddau enillwr a ddewiswyd o Ysgol Frongoch, Dinbych a rhoddwyd tocynnau teulu iddynt, gan Gymdeithas Amaethyddol Sir Ddinbych a Sir y Fflint.   Roedd cystadleuaeth hamper hefyd, a chafodd yr enillydd o Gei Connah hamper moethus yn llawn cynnyrch bwyd lleol, gan gynhyrchwyr lleol.  Roeddent hefyd yn ennill tocynnau i gael mynediad am ddim i Wyliau Bwyd Llangollen ar Wyddgrug. Dywedodd y Cynghorydd Huw Jones, Aelod Cabinet Arweiniol Twristiaeth: “Roeddem wrth ein bodd o gael cyfle i hyrwyddo ein cyfoeth o atyniadau, lleoliadau a gweithgareddau sydd ar gael yn y ddwy sir, gan ganolbwyntio ar rai or trysorau cudd nad ywn hysbys i bawb.    Cawsom gyfle i arddangos ein harfordir hefyd, gyda thraeth bychan a gweithgareddau glan môr cysylltiol gan ddenu nifer o ymwelwyr. “Roedd cefn gwlad yn nodwedd fawr hefyd, gyda chloddfa fechan a wal garreg sych yn denu sylw gan nifer o ymwelwyr y sioe. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:  :Maer sioe yn ddigwyddiad pwysig yn y calendr amaethyddol ac rwyn falch fod y cynghorau unwaith eto wedi gweithio gydau gilydd yn llwyddiannus i ddarparu arddangosfa ardderchog  a oedd yn hwyliog ac yn llawn gwybodaeth, er mwynhad y torfeydd. Nodyn i olygyddion:  I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chyngor Sir Ddinbych ar 01824 706222 neu Gyngor Sir y Fflint ar 01352 702110. Yn y llun isod mae y Cynghorydd Brian Blakeley, Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych ar Cynghorydd Glenys Diskin, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint.