Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Lansio Rhaglen - Wythnos Fusnes Sir y Fflint 2014

Published: 28/08/2014

Mae rhaglen 2014 ar gyfer digwyddiad busnes blaenllaw Cyngor Sir y Fflint, Wythnos Fusnes Sir y Fflint (FBW) wedi cael ei lansio. Mewn cydweithrediad ag AGS Security Systems a Westbridge Furniture Designs, ffocws eleni yw’r Agenda Twf a bydd yn canolbwyntio ar helpu busnesau yng Ngogledd Cymru i ddelio â heriau newydd wrth ir sir ddod allan or dirwasgiad. Bydd y digwyddiad yn rhedeg o 7 -10 Hydref gan ganolbwyntion benodol ar weithgynhyrchu, syn adlewyrchur rhan bwysig mae’r diwydiant yn ei chwarae yn y rhanbarth. Yr Economi Ranbarthol ywr thema ar gyfer dydd Mawrth 7 Hydref, gan ddechrau gydag agoriad swyddogol gan yr Arglwydd Barry Jones, llywydd newydd o FBW, yng Ngwesty Dewi Sant, Ewlo. Bydd siaradwyr yn tynnu sylw at bynciau gan gynnwys llwyddiant busnes, datblygiad economaidd strategol, cyflwr y genedl a Chynghrair Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy. Coleg Cambria Glannau Dyfrdwy ywr lleoliad ar gyfer yr Arddangosfa Fusnes ar 8 Hydref syn cynnwys stondinau i arddangos busnesau lleol yn ogystal â seminarau ar dwf swyddi yng Nghymru, cyfryngau cymdeithasol a chyflwyniad i fusnes yng Nghymru. Ar 9 Hydref, mae Airbus yn croesawu Busnes Gogledd Cymru gyda siaradwyr ar dueddiadau gweithgynhyrchu yn y DU, y byd academaidd, gweithgynhyrchu uwch a phrentisiaethau. Bydd hefyd yn gyfle i ddathlu 75 mlynedd o Airbus ym Mrychdyn. Bydd y manteision ar rhagolygon ar gyfer datblygu mentrau cymdeithasol yn cael eu hamlygu mewn cynhadledd yng Ngholeg Cambria o 1pm hefyd ar 9 Hydref. Gweithio gydan Gilydd ywr thema ar 10 Hydref yng Ngwesty Beaufort Park yn yr Wyddgrug gyda digwyddiad rhwydweithio, y Rhwydwaith Entrepreneuriaeth Busnes ar siaradwr or cwmni tai Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru yn sôn am gyfleoedd newydd ar gyfer datblygu tai yn Sir y Fflint. I gloir Wythnos Fusnes, bydd Gala Gwobrau Busnes Sir y Fflint y ceir mynediad iddo trwy wahoddiad yn unig yn cael ei gynnal yn Neuadd Sychdyn ar 17 Hydref gyda gwobrau ar gyfer busnesau lleol mewn 10 categori, gan gynnwys Busnes y Flwyddyn a Pherson Busnes y Flwyddyn. Dyma oedd gan y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd i’w ddweud: Maer rhaglen yn gymysgedd gwych o siaradwyr lleol, rhanbarthol a chenedlaethol ac yn hanfodol i unrhyw un mewn busnes yn Sir y Fflint a thu hwnt. Eleni maer ffocws ar weithgynhyrchu, rhwydweithio lleol a hyfforddi gyda phwyslais ar sgiliau cyflogadwyedd. Nod y digwyddiad yw annog cysylltiadau busnes yn lleol ac yn rhanbarthol ac i roi proffil i fusnesau o ansawdd yn Sir y Fflint ir gynulleidfa ehangaf posibl. Am gopi or rhaglen cysylltwch â businessweek@flintshire.gov.uk neu 01352 703219 neu www.flintshirebusinessweek.co.uk I archebu eich lle arddangos neu am wybodaeth bellach, cysylltwch â Jen Petrie 01352 703040 neu jennifer.petrie@flintshire.go.uk Cysylltwch â Kate Catherall 01352 703221 am ragor o wybodaeth am Wobrau Busnes Sir y Fflint.