Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Her Weiren Sip

Published: 29/08/2014

Mae Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Glenys Diskin yn gobeithio codi arian ar gyfer ei helusennau dewisol trwy fynd ar weiren sip hiraf Ewrop. Bydd yn cymryd rhan yn y sialens weiren sip yn Zip World Titan, Ceudyllau Llechi Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog sydd 500 troedfedd i fyny yn yr awyr gyda dros 8km o weiren, yn teithio ar gyflymder o 60 milltir yr awr dros rostiroedd, mynyddoedd, chwareli a hen weithfeydd mwyngloddio. Bydd y Cynghorydd Diskin, sydd ar hyn o bryd yn cael triniaeth ar gyfer Lymffoma Non-Hodgkin, yn mynd ar y weiren ddydd Sadwrn 6 Medi i godi arian ar gyfer Sefydliad Prydeinig y Galon a Chanolfan Ymchwil Canser y Prostad. Dywedodd y Cynghorydd Diskin: “Rydw in cael triniaeth ar hyn o bryd, felly rwy’n gwybod sut beth yw byw gyda chanser. Roeddwn eisiau gwneud rhywbeth gwahanol i godi arian i elusen felly penderfynais ar y weiren sip. “Mae pedwar ohonom yn ei wneud, fy merch Linda Diskin, Noel Barnes, clerc cyngor cymuned Brychdyn a Bretton ai wraig Lynn. Rwyf ychydig yn ofnus, ond yn edrych ymlaen yn fawr. Gallwch noddi’r Cyng Diskin drwy ffonio’r Gwasanaethau Aelodau yng Nghyngor Sir y Fflint ar 01352 702151/702153 neu e-bostio member.services@flintshire.gov.uk