Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn croesawu Taith Prydain

Published: 01/09/2014

Bydd Sir y Fflint unwaith eto yn croesawu Taith Prydain ddydd Llun 8 Medi wrth i lawer o brif feicwyr y byd rasio drwyr sir ar Ddiwrnod 2 y digwyddiad chwaraeon mawreddog hwn. Bu miloedd yn sefyll ar y llwybr drwy Sir y Fflint y llynedd a disgwylir torfeydd mawr eto yn dangos eu cefnogaeth ir beicwyr eleni wrth i’r Daith fynd drwy ganol tref yr Wyddgrug ac ymlaen i ddiwedd y cam yn Llandudno. Dywedodd y Cyng. Kevin Jones, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Hamdden, “Mae Taith Prydain yn ddigwyddiad cyffrous, proffil uchel a bydd modd gweld uchafbwyntiaur digwyddiad ar y teledu ledled y byd. Rwyf wrth fy modd y bydd hyn ar sylw helaeth yn y wasg leol a chenedlaethol ac ar-lein yn dod â Sir y Fflint i sylw cynulleidfa ryngwladol enfawr. “Mae hwn yn gyfle gwych i bobl leol weld y gorau o seiclo rhyngwladol ac rwyf yn siwr y bydd torfeydd allan yn llu i fwynhau cyffro a gwefr y ras. Disgwylir ir beicwyr gyrraedd Sir y Fflint am 12.30, gan deithio ar yr A541 o Gefn y Bedd i Llong yna ymuno â’r B5444 Stryd Wrecsam, Stryd Fawr a Stryd Fawr Uchaf, Yr Wyddgrug cyn mynd allan o Sir y Fflint ar yr A541 tuag at Ddinbych. Bydd ffyrdd ar gau ar hyd y llwybr a allai arwain at oedi o tua 15-20 munud. Bydd y B5444 Stryd Fawr a Stryd Fawr Uchaf, Yr Wyddgrug ar gau rhwng 10.00 a 13.30. I gael manylion llawn am Daith Prydain, gan gynnwys amserlen y llwybr ewch i wefan Taith Prydain http://www.tourofbritain.co.uk