Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Myfyrwyr yn gadael eu hôl ar ysgol newydd

Published: 29/04/2025

Mae darpar ddisgyblion Ysgol Gymraeg Croes Atti wedi gadael eu hôl yn swyddogol ar eu hysgol newydd drwy lofnodi panel wal fewnol.

Fel rhan o’r prosiect uchelgeisiol £15.9 miliwn, gyda chefnogaeth gwerth £11.2 miliwn gan Lywodraeth Cymru, bydd yr ysgol bresennol yn y Fflint yn symud i safle newydd, lai na milltir o’i lleoliad presennol.

Bydd y campws newydd sbon, sef ysgol gynradd Gymraeg newydd gyntaf Sir y Fflint, yn cynnwys ysgol newydd gyda lle i hyd at 240 disgybl llawn amser a chyfleuster pwrpasol ar wahân ar gyfer gofal plant y blynyddoedd cynnar, digwyddiadau cymunedol a rhaglen drochi.

Mae’r adeilad, fydd hefyd yn ail ysgol gynradd sero net Sir y Fflint, yn cael ei hadeiladu o baneli strwythurol wedi’u hinsiwleiddio ac yn ddiweddar, trefnodd yr adeiladwyr, Read Construction, bod un o’r paneli’n cael ei ddanfon i’r ysgol bresennol fel bod y disgyblion a’r staff yn gallu ei lofnodi.

Yna, aed â’r panel yn ôl i’r safle newydd ar gyfer digwyddiad llofnodi ffurfiol gyda rhai o’r disgyblion, tîm safle Read, cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, yr Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Mared Eastwood, Arweinydd y Cyngor Dave Hughes a’r Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid, Claire Homard.

Dywedodd y Cynghorydd Eastwood: “Mae hyn yn golygu mwy na dim ond adeilad newydd - mae’n golygu creu lle sy’n berchen i bob disgybl ac aelod o staff.

“Roedd yn ddiwrnod mor arbennig gweld y plant yn gadael eu hôl personol eu hunain ar yr ysgol. Mae’n ffordd wych o gynnwys myfyrwyr a gobeithio y byddant yn cofio am byth sut y gwnaethant helpu’n llythrennol i siapio eu darpar ysgol.”

Ychwanegodd Rheolwr Ymgysylltu Read Construction, Kasia Williamson: “Mae wir yn fraint cael bod yn rhan o brosiect mor wych sy’n blaenoriaethu cynaliadwyedd ond sydd hefyd yn cael ei adeiladu drwy berthynas gydweithio gref gyda’r ysgol a’r gymuned ehangach. Roedd yn wych gweld mor gyffrous oedd y disgyblion a’r staff wrth weld cynnydd eu hysgol newydd, ac rydym yn edrych ymlaen at gael trosglwyddo’r prosiect i’r gymuned gael ei fwynhau am flynyddoedd i ddod.”

Dechreuodd y gwaith adeiladu yr haf diwethaf a disgwylir iddo gael ei gwblhau yn hydref 2025.

Am ragor o fanylion ar Raglen Moderneiddio Ysgolion y Cyngor, cliciwch yma.