Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Comisiynydd yn ymweld â Marleyfield House
Published: 14/05/2025
Yn ddiweddar, cafodd Cyngor Sir y Fflint y pleser o groesawu Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hyn Cymru i Marleyfield House, Cartref Gofal Preswyl, Bwcle.
Dechreuodd Rhian ei swydd fel Comisiynydd Pobl Hyn ddiwedd mis Medi 2024. Mae'n sicrhau bod lleisiau pobl hyn yn cael eu clywed, bod ganddyn nhw ddewis a rheolaeth a'u bod nhw'n cael y gefnogaeth a'r gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw, gan ddiogelu eu hawliau dynol ar yr un pryd.
Mae Marleyfield House yn rhoi cefnogaeth hanfodol i bobl hyn sy'n chwilio am ofal preswyl hirdymor a'r rhai sydd angen cefnogaeth/therapïau tymor byrrach i alluogi iddynt ddychwelyd i fyw'n annibynnol gartref ar ôl cyfnod yn yr ysbyty.
Yn ystod ei hymweliad, dangoswyd y cartref i’r Comisiynydd, gan gyfarfod â phreswylwyr parhaol a byrdymor a siarad â nhw am y gofal a'r gefnogaeth maen nhw'n ei gael, ynghyd â'u profiadau personol o fyw neu aros yn y cartref.
Cafodd y Comisiynydd gyflwyniad hefyd ar gynlluniau’r Cyngor ar gyfer ei gartref gofal newydd nesaf - Ty Croes Atti, y Fflint. Mae Llywodraeth Cymru, Ysbyty Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor Sir y Fflint a budd-ddeiliaid eraill wedi cydweithio ar ddatblygu'r cyfleuster newydd sbon hwn a fydd yn darparu gwasanaethau hanfodol tebyg i'r rhai yn Marleyfield House.
Meddai’r Comisiynydd Pobl Hyn, Rhian Bowen-Davies: “Roedd yn bleser ymweld â Marleyfield House a chwrdd â phobl hyn a staff i ddysgu mwy am yr effaith gadarnhaol o ganlyniad i’r gofal a’r gefnogaeth sy’n cael eu darparu yno.
“Roedd yn wych gweld ffocws mor gryf ym Marleyfield wrth deilwra cefnogaeth i ddiwallu anghenion unigol pobl, a bod y dull hwn yn cael ei fabwysiadu’n ehangach ar draws Sir y Fflint fel rhan o gynlluniau’r dyfodol.”
Meddai Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol, y Cynghorydd Christine Jones: "Roeddwn i mor falch o groesawu Rhian i Marleyfield House ac o gael y cyfle i rannu ein cyflawniadau gyda hi. Mae'r galw am ofal cymdeithasol yn tyfu, ond rydym yn parhau i wynebu setliadau cyllideb heriol gan lywodraethau cenedlaethol. Mae buddsoddi i arbed yn rhywbeth rydyn ni'n angerddol amdano yma yn Sir y Fflint.
“Mae nodi datrysiadau i sefyllfaoedd cyn iddynt ddod yn argyfwng yn un o’r ffyrdd y gallwn weithio gyda phartneriaid i leihau’r galw ar wasanaethau. Yn bwysicach fyth, fodd bynnag, mae'n ein galluogi i ddarparu mynediad i bobl leol a'u teuluoedd at wasanaethau lleol sy'n galluogi amrywiaeth o opsiynau byw’n annibynnol sy'n diwallu anghenion yr unigolyn. Rwy'n hynod falch o Marleyfield House ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld preswylwyr cyntaf Ty Croes Atti yn ddiweddarach eleni."