Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae pobl ifanc sydd wedi profi gofal yn rhannu'r perthnasoedd maethu a newidiodd eu bywydau

Published: 15/05/2025

Mae pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn rhannu'r perthnasoedd ystyrlon maen nhw wedi'u datblygu drwy'r gymuned maethu sydd wedi newid eu bywydau er gwell.

Dros Bythefnos Gofal Maeth eleni, sy'n digwydd yn flynyddol rhwng 12 a 25 Mai 2025, mae’r gymuned maethu’n dathlu pwer perthnasoedd.

Boed yn gysylltiad rhwng gofalwr a phlentyn, y berthynas a grëwyd gyda gweithwyr cymdeithasol cefnogol, neu'r cyfeillgarwch a adeiladwyd gyda gofalwyr maeth eraill mewn cymuned, perthnasoedd cryf yw'r cysylltiad cryf sydd i’w weld ym mhob stori maethu.Foster Wales Flintshire.png

Mae dros 7,000 o blant yn y system ofal yng Nghymru, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth.  Nod Maethu Cymru yw recriwtio 800 o ofalwyr ychwanegol erbyn 2028.

7 oed oedd Kyle pan fu’n rhaid i Maethu Cymru Sir y Fflint drefnu gofal ar frys iddo yn ystod gwyliau’r haf.

Mewn amgylchiadau anghyfarwydd, nid oedd yn gallu cysgu un noson, felly am 3am, penderfynodd ei ofalwr maeth, Gavin, ddangos ffilm i blant ar y teledu ac fe fu’r ddau’n gwylio’r ffilm gyda’i gilydd, gan gadw cwmni i Kyle yn ystod ei noson o bryder. 

Er mai dim ond am ychydig nosweithiau yr arhosodd Kyle gyda Gavin ar yr achlysur hwn, mae’r caredigrwydd a’r cysur syml hwn wedi aros gyda Kyle. 

Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, pan oedd Kyle yn 17 oed ac angen gofal ar frys, camodd Gavin i’r adwy eto fel gofalwr maeth, ac yn fuan iawn, daeth hyn yn drefniant parhaol. 

Bellach yn 22 oed, mae Kyle yn ystyried Gavin fel tad iddo, ac yn ffynnu fel rhan o’r teulu estynedig o ‘frodyr a chwiorydd’ maeth.  Gyda chefnogaeth Gavin, mae Kyle bellach yn byw’n annibynnol ac yn gweithio’n llawn amser ar ddesg gwasanaeth TG y Cyngor.  Maent yn byw’n agos at ei gilydd, ac mae Kyle yn ymweld â Gavin yn aml. 

“Pan fydd pobl ifanc yn y sefyllfa hon, maent yn aml yn teimlo’n ofnus ac fel petai’r byd ar ben, roeddwn i’n bendant yn teimlo fel hyn,” meddai Kyle.  “Roeddwn i’n teimlo nad oedd unrhyw gefnogaeth, ond nid oedd hynny’n wir.” 

“Nid wyf yn ei alw’n dad, ond pan fyddaf yn sôn amdano, rwy’n aml yn cyfeirio ato fel fy nhad.  Mae ar gael i mi os oes arnaf angen unrhyw gefnogaeth emosiynol, cefnogaeth ariannol, unrhyw beth.” 

Meddai Gavin:  “Rwy’n falch iawn o Kyle a’i sefyllfa o ystyried dechrau ei fywyd. 

“Mae’r newidiadau cadarnhaol y mae wedi’u gwneud wedi ei helpu i gyrraedd ei sefyllfa bresennol.  Dyma yw un o’r pethau gorau am faethu.  Pan mae pethau'n gweithio a bod ganddyn nhw'r math o fywyd yr hoffech chi eich hun ei gael ac ar y llwybr cywir  - does dim curo hynny."

I wylio fideo Gavin a Kyle, ewch i www.youtube.com/watch?v=KNaRcpRmQc0

I ddysgu mwy am fod yn ofalwr maeth yng Nghymru, ewch i  maethucymru.llyw.cymru

A hoffech chi gael ‘Paned gyda Gofalwr’?  Dyma eich cyfle i eistedd i lawr mewn caffi clyd o’ch dewis chi gydag un o’n gofalwyr maeth profiadol. I ddarganfod mwy am ‘Paned gyda Gofalwr’, ymwelwch â  https://siryfflint.maethucymru.llyw.cymru/paned-gyda-gofalwr/

Gallwch gwrdd â thîm Maethu Cymru Sir y Fflint yn Well Fest ar Gae’r Llyfrgell, Canol Tref Wrecsam, LL11 1AU ar 17 Mai rhwng 11am a 4pm.