Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymrwymiad Sir y Fflint i gyfleoedd chwarae

Published: 27/05/2025

Mae Tîm Datblygu Chwarae Sir y Fflint wedi ymrwymo i sicrhau fod pob plentyn ar draws y sir yn cael mynediad at gyfleoedd chwarae yn eu hysgolion a’u cymunedau lleol.

Yn hanesyddol mae’r tîm wedi canolbwyntio ar ddarparu cynllun chwarae mawr dros yr haf sy’n cynnwys dros 40 o safleoedd yn Sir y Fflint. Fodd bynnag, yn sgil y twf a’r datblygiad dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r tîm chwarae wedi ehangu i gynnig darpariaeth drwy gydol y flwyddyn mewn ysgolion a chymunedau, a gweithio ar y cyd â gwasanaethau eraill.

Yn ystod Hanner Tymor Mis Mai, mae’r Tîm Chwarae yn cynnal gweithgareddau cymunedol yn y mannau canlynol; Penyffordd (Treffynnon), Mostyn – Maes Pennant, Bwcle - Princess Avenue, Holway – Meadowbank a’r Wyddgrug - Parkfields. Bydd rhai gweithgareddau’n cael eu cynnal yn y bore a rhai yn y prynhawn. Bydd byrbrydau ar gael ar bob safle.

Dywedodd y Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden: “Mae Sir y Fflint yn falch o arwain y ffordd o ran cefnogi chwarae. Mae ein Tîm Datblygu Chwarae yn gweithio’n ddiflino drwy gydol y flwyddyn i greu cyfleoedd sy’n caniatáu i blant archwilio, dychmygu a ffynnu drwy chwarae.” 

“Mae chwarae’n rhan hanfodol o ddatblygiad plentyn, ond mae hefyd yn allweddol i’w bywyd bob dydd, felly mae’n bwysig eu bod yn cael y cyfleoedd hyn mewn mannau diogel ar draws y sir. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau fod pob plentyn yn Sir y Fflint yn cael cyfle i chwarae’n ddiogel ac yn rhydd yn eu cymuned.”

Mae gan chwarae lawer iawn o fuddion sy’n hyrwyddo cefnogaeth emosiynol, lles corfforol, sgiliau cymdeithasol ac ymddygiad gwybyddol. 

Yn ddiweddar, mae’r tîm wedi cyflwyno prosiect o’r enw ‘Amser Cinio Rhydd’ ledled ysgolion Sir y Fflint. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar elfen allweddol o chwarae o’r enw rhannau rhydd - ystod o adnoddau y gellir eu hailddefnyddio wrth chwarae megis teiars, cafnau a pheipiau dwr, defnydd a mwy. Mae Amser Cinio Rhydd yn rhoi cyfle i blant ehangu eu creadigrwydd a datblygu eu sgiliau meithrin tîm.

I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd i chwarae yn Sir y Fflint, cliciwch yma.