Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i ‘Ofalu am Gydraddoldeb’ yn ystod Wythnos Gofalwyr eleni 

Published: 09/06/2025

welsh_carersweek_logo.jpgMae Cyngor Sir y Fflint yn gwahodd gofalwyr, busnesau lleol a chefnogwyr eraill i gymryd rhan yn Wythnos Gofalwyr 2025, sy’n cael ei gynnal rhwng 9 a 15 Mehefin.  

Mae’r thema eleni, ‘Gofalu am Gydraddoldeb’, yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o’r heriau y mae gofalwyr di-dâl yn eu hwynebu ac mae’n cydnabod eu rôl hanfodol mewn teuluoedd a chymunedau.  Mae hefyd yn annog pobl i ystyried eu hunain fel gofalwyr a cheisio cefnogaeth.  Mae’r thema eleni yn tynnu sylw at yr anghydraddoldebau y mae gofalwyr yn eu hwynebu — fel tlodi, arwahanrwydd ac iechyd gwael — a sut mae cyfrifoldebau gofalu yn aml yn cyfyngu ar gyfleoedd mewn addysg, gyrfaoedd a bywyd personol. 

Mae oddeutu 18,000 o bobl yn Sir y Fflint yn gofalu am aelod teulu, ffrind neu gymydog sy’n sâl, hyn neu’n anabl.  Nid yw llawer o bobl yn ystyried eu hunain fel gofalwyr i ddechrau — maent ond yn helpu rhywun y maent yn ei garu neu y mae ganddynt feddwl mawr ohonynt.  I rai, mae gofalu yn dechrau’n raddol; i eraill, gall ddechrau’n sydyn.  Dywed Ymddiriedaeth Gofalwyr Cymru y bydd 3 o bob 5 o bobl yng Nghymru yn dod yn ofalwr ar ryw bwynt yn eu bywydau. 

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol:  

“Mae Wythnos Gofalwyr yn gyfle pwysig i gymuned Sir y Fflint uno i gydnabod y rôl hanfodol y mae gofalwyr yn ei chwarae o ran cefnogi rhai o’r unigolion mwyaf diamddiffyn.  Mae hefyd yn gyfle i dynnu sylw at yr heriau y maent yn eu hwynebu, fel risgiau uwch o dlodi, arwahanrwydd cymdeithasol a phroblemau iechyd meddwl a chorfforol.” 

Pa gymorth sydd ar gael yn Sir y Fflint?

Yn Sir y Fflint rydym yn falch o gefnogi trigolion sydd â chyfrifoldebau gofalu, trwy wasanaethau mewnol a’n sefydliadau partner. Mae gennym ystod eang o wasanaethau a sefydliadau gofalwyr yn Sir y Fflint sydd ar gael i helpu. Am fwy o wybodaeth ewch i’n gwefan neu Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru 

Wythnos Gofalwyr 2025 

I ddathlu Wythnos Gofalwyr, mae ein sefydliad partner GOGDdC, yn cynnal nifer o ddigwyddiadau. Bob diwrnod yn ystod Wythnos Gofalwyr maent yn canolbwyntio ar thema benodol, yn cynnig y cyfle i ganolbwyntio ar y ffyrdd gwahanol y gall anghydraddoldeb effeithio ar fywydau gofalwyr:

Dydd Llun - Iechyd a Gofal Cymdeithasol 
Dydd Mawrth – Lles Ariannol
Dydd Mercher – Gwaith a Chyflogaeth
Dydd Iau – Gofalwyr Ifanc
Dydd Gwener – Gofalwyr Hyn
Dydd Sadwrn – Iechyd Meddwl a Lles

Ewch i’w gwefan (www.newcis.org.uk) a dilyn eu tudalennau cyfryngau cymdeithasol i weld mwy o wybodaeth a rennir trwy gydol yr wythnos.

Digwyddiad Rhannu Gwybodaeth i Ofalwyr 

Mae GOGDdC hefyd yn cynnal digwyddiad rhannu gwybodaeth gyda lluniaeth a chyfle i gwrdd a siarad â staff GOGDdC, yn ogystal â Therapyddion Galwedigaethol a thîm Cymorth Taliadau Uniongyrchol Cyngor Sir y Fflint. 

Dewch draw i GOGDdC, 38-42 Stryd Fawr, yr Wyddgrug, CH7 1BH ddydd Mercher 11 Mehefin rhwng 10am a 2pm.

Bore Coffi Cymunedol Oed a Dementia

Digwyddiad Bore Coffi Cymunedol Oed a Dementia GOGDdC i ddathlu Wythnos Gofalwyr.  Bydd cynrychiolwyr yn bresennol o Gyngor Sir y Fflint, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor ar Bopeth, Age Concern, Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint, Swyddog Diogelwch Tân Cymunedol, Y Gymdeithas Alzheimer’s, Gofal a Thrwsio, Well Fed, Y Ganolfan Fancio, Estuary Cars, Cymorth Cymunedol y GIG, Specsavers, Caffi Trwsio Cymru.  A llawer mwy!  

Neuadd y Dref y Fflint, CH6 5NW ddydd Iau 12 Mehefin 10am – 12:30pm.

gofalu-am-gydraddoldeb.jpg