Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Crewyr Ifanc yn Arwain y Ffordd i Lwyddiant Gwanwyn Glân yr Wyddgrug 

Published: 11/06/2025

Sculpture Competition.jpgMae dau ddisgybl dawnus o Ysgol Bryn Coch yn yr Wyddgrug wedi ennill cystadleuaeth Cerflun Sgrap Gwanwyn Glân yr Wyddgrug 2025, gan wneud argraff dda ar y beirniaid gyda’u defnydd dyfeisgar o ddeunyddiau ailgylchu a’u negeseuon amgylcheddol pwerus. 

Roedd y panel beirniadu wrth eu bodd gyda cherflun llawn dychymyg Thomas B o bysgodyn yn arnofio tu mewn i focs, tra bod Harlow C wedi plesio pawb gyda’i morfil hardd disglair. Roedd y ddau gerflun yn sefyll allan am eu gwreiddioldeb, teilyngdod artistig a’u dehongliad meddylgar o feini prawf y gystadleuaeth. Yn rhyfedd iawn a thrwy gyd-ddigwyddiad, roedd y cerfluniau yn cyd-fynd yn berffaith ag ymgyrch amgylcheddol newydd sydd wedi’i lansio, sef “Dim ond Glaw i Lawr y Draen”. Wedi’i chynllunio i godi ymwybyddiaeth plant ysgol, mae’r ymgyrch yn amlygu sut mae llygredd ar y tir yn aml iawn yn cyrraedd y môr ac yn niweidio bywyd morol – rhywbeth yr oedd y ddau gerflun yn tynnu sylw ato mewn ffordd greadigol iawn. 

Roedd y gystadleuaeth yn rhan o ymgyrch ehangach Gwanwyn Glân Cymru Cadwch Gymru’n Daclus 2025, y mae Cyngor Tref yr Wyddgrug yn ei chefnogi’n frwd pob blwyddyn fel ffordd i feithrin balchder cymunedol a chyfrifoldeb amgylcheddol. Cynhaliwyd Gwanwyn Glân yr Wyddgrug o 24 Mawrth tan 6 Ebrill, gyda dathliad cymunedol ddydd Sadwrn 29 Mawrth ar Sgwâr Daniel Owen. 

Wedi’i threfnu mewn partneriaeth â Lleihau Plastig yr Wyddgrug, Gwasanaethau Stryd a Hyrwyddo Marchnadoedd Cyngor Sir y Fflint ac elusen Cadwch Gymru’n Daclus, roedd y fenter yn annog ysgolion, preswylwyr, sefydliadau a busnesau lleol i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau amgylcheddol. Gyda’i gilydd, llwyddodd y gymuned i gasglu 1.267 tunnell o sbwriel a deunyddiau wedi’u tipio’n anghyfreithlon yn ystod y bythefnos. 

I ddathlu eu llwyddiant, cafodd enillwyr y gystadleuaeth taleb £60 i wario mewn siop neu fusnes lleol o’u dewis. Cyflwynwyd y gwobrau gan Faer yr Wyddgrug bryd hynny, y Cynghorydd Brian Lloyd, a ganmolodd y plant am eu hymroddiad a’u creadigrwydd.

Meddai’r Cyng. Lloyd: “Mae’r gystadleuaeth hon yn fwy nag ailgylchu, mae’n ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf ac yn annog balchder yn ein hamgylchedd lleol. Mae Thomas a Harlow wedi cyflawni hynny. Mae eu cerfluniau yn wledd i’r llygaid ac yn rhannu neges bwysig iawn.”

Roedd y gystadleuaeth Cerflun Sgrap Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir y Fflint yn gwahodd plant i greu darn o waith celf yn defnyddio deunyddiau ailgylchu glân yn unig, gan annog dychymyg ac ymwybyddiaeth amgylcheddol yn unol â nodau datblygu cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig. Gwahoddwyd ysgolion i gyflwyno gwaith eu plant i’w beirniadu a’u harddangos yn gyhoeddus yn nathliad dydd Sadwrn yr ymgyrch Gwanwyn Glân. 

Wrth i’r Wyddgrug barhau ar ei thaith gynaliadwy, mae mentrau fel Gwanwyn Glân yr Wyddgrug ac ymgyrchoedd fel “Dim Ond Glaw i Lawr y Draen” yn chwarae rhan hanfodol i hyrwyddo newid hirdymor yn ymddygiad pobl – gan ddechrau gyda dinasyddion ieuengaf y dref. 

Rydym ni’n annog pob ysgol yn y sir i ymuno â ni a gwneud gwahaniaeth! I gymryd rhan mewn ymgyrchoedd a gweithgareddau amgylcheddol sydd i ddod, cysylltwch â Chyngor Sir y Fflint ar keepflintshiretidy@flintshire.gov.uk. 

Os hoffech chi gefnogi Gwanwyn Glân yr Wyddgrug 2026, cysylltwch â ni ar events@moldtowncouncil.org.uk.