Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwaith yn dechrau ar gynllun diogelwch tân gwerth £4.75 miliwn

Published: 13/06/2025

Mae gwaith wedi dechrau ar brosiect mawr gwerth £4.75 miliwn i wella diogelwch tân yng nghynlluniau tai gwarchod uchel iawn Sir y Fflint.

Bydd y prosiect, a gefnogir drwy gyllid gan Lywodraeth Cymru, yn arwain at waith uwchraddio sylweddol i systemau diogelwch tân goddefol a gweithredol yn Richard Heights, Bolingbroke Heights a Castle Heights.

Bydd y rhaglen 12 mis o hyd a ddechreuodd ym mis Ebrill yn darparu mesurau amddiffyn rhag tân gwell ar gyfer mwy na 270 o gartrefi ac yn cyfrannu at waith y Cyngor i ddiogelu ei breswylwyr.

Meddai’r Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet Tai a Chymunedau: “Rydym yn croesawu’r buddsoddiad hanfodol hwn gan Lywodraeth Cymru ac yn falch bod modd i ni gyflawni’r gwaith hwn ar gyfer ein preswylwyr. 

“Dyma brosiect sy’n cynrychioli carreg filltir bwysig yn ymrwymiad Sir y Fflint o ran diogelwch adeiladau. Mae diogelwch a lles ein tenantiaid yn flaenoriaeth gennym bob amser, a bydd y gwelliannau hyn yn sicrhau mwy o amddiffyniad a thawelwch meddwl ar gyfer preswylwyr sy’n byw yn ein cynlluniau tai gwarchod uchel iawn.”

Bydd y prosiect yn cael ei gyflawni gan Wynne Construction trwy Bartneriaeth Adeiladu Gogledd Cymru, gan gefnogi gwaith o safon uchel, sy’n canolbwyntio ar yr ardal leol.

Drwy benodi contractwr o Gymru, bydd y rhan fwyaf o'r buddsoddiad yn aros yng Nghymru, gan gyfrannu at gyflogaeth leol, datblygu sgiliau a'r economi ehangach.