Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwobrau Masnachwr Ifanc

Published: 23/06/2025

Mae Marchnad yr Wyddgrug yn falch o gyhoeddi y bydd yn cynnal Rownd Derfynol Ranbarthol Gwobrau Masnachwr Ifanc ar ddydd Sadwrn, 28 Mehefin. Nod y digwyddiad arbennig hwn, a gefnogir gan Gyngor Bwrdeistref Sir y Fflint, ac mewn partneriaeth â Ffederasiwn Masnachwyr Marchnad Cenedlaethol, yw dathlu a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o fasnachwyr marchnad, gan sicrhau ffyniant hirdymor marchnadoedd stryd a strydoedd mawr.

mm1.jpg

Ar y diwrnod, bydd y farchnad yn ehangu gyda dros ugain o stondinau ychwanegol, yn croesawu masnachwyr ifanc dawnus ar draws y rhanbarth, gan gynnwys y rhai a gystadlodd yn y rowndiau cynharach yn yr Wyddgrug, Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gogledd-Orllewin Lloegr. Mae’r digwyddiad hwn yn argoeli i fod yn farchnad fywiog ac amrywiol, yn arddangos syniadau ffres a chynnyrch arloesol gan entrepreneuriaid y dyfodol.

“Mae rhoi llwyfan i’r genhedlaeth ifanc a rhoi cymorth iddynt sefydlu, yn rhywbeth cadarnhaol iawn. Rhaid i ni edrych ar ddyfodol hirdymor y marchnadoedd a’r strydoedd mawr, ac mae mentrau fel y rhain eisoes yn cael effaith gadarnhaol. Mae cefnogi masnachwyr ifanc heddiw yn golygu marchnadoedd bywiog a ffyniannus yfory”. Swyddog Hyrwyddo ac Ymgysylltiad Marchnadoedd, Jonathan Thomas. “Mae derbyn cyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU wedi ein galluogi ni i gynnal digwyddiadau fel hyn a chefnogi gwasanaethau neu sefydliadau eraill gyda gweithgareddau ymgysylltu cyhoeddus”.

Mae Gwobrau Masnachwyr Ifanc wedi dod yn gerrig camu hanfodol, gan ddarparu amlygiad, profiad a hyder sydd ei angen i lwyddo mewn busnes. Trwy gynnal y rownd derfynol ranbarthol, mae Marchnad yr Wyddgrug yn parhau ei ymrwymiad i feithrin ysbryd cymunedol, cefnogi busnesau lleol a gyrru twf economaidd yn yr ardal.

“Mae cymryd rhan wedi bod yn brofiad anhygoel. Mae wedi rhoi cyfle i mi sefydlu ac arddangos fy nghynnyrch i’r cyhoedd, gan gynnig llwyfan i mi rannu fy ngwaith a chodi ymwybyddiaeth ar gyfer fy musnes. Mae amlygiad ar gyfer busnes bach yn werthfawr, nid yn unig er mwyn cyrraedd cynulleidfa eang ac amrywiol, ond hefyd i dderbyn adborth uniongyrchol i fy helpu i siapio a chryfhau fy musnes. Mae’r Masnachwyr Ifanc wedi rhoi cyfle i mi gwrdd â masnachwyr ifanc eraill, gyda phawb yn dod a’u hegni a chreadigrwydd unigryw. Mae’n ofod bywiog a chefnogol” Tania Blaine, Immortal Flame.

Un o’r masnachwyr sydd hefyd wedi elwa o’r Grant Dechrau Busnes i Bobl Ifanc, sydd ar gael trwy Busnes Cymru ac mae llawer mwy yn y broses o wneud cais. Llwyddodd Amy Jones o Dreffynnon, sydd â stondin gemwaith, i ysgwyddo mwyafrif o’i chostau sefydlu trwy’r cynllun a byddai’n annog unrhyw un sy’n ystyried dechrau busnes eu hunain i gysylltu â Busnes Cymru i weld pa gymorth sydd ar gael.

Meddai Chris Dolphin, Aelod Cabinet yr Economi, yr Amgylchedd a Hinsawdd: 

“Mae Marchnad yr Wyddgrug yn unigryw yn ein rhan ni o Gymru fel y profiad siopa awyr agored gorau.  Mae’n wych bod NMTF wedi dewis yr Wyddgrug, ei marchnad a’i Stryd Fawr fel y lleoliad i arddangos rownd derfynol ranbarthol Gwobrau Masnachwyr Ifanc. Yng Nghyngor Sir y Fflint, mae’n bleser bob amser gennym groesawu’r Farchnad orau, a rwan y masnachwyr busnes ifanc gorau hefyd.  Marchnad yr Wyddgrug ar ddydd Sadwrn ydi’r lle gorau i fod i siopa. 

Bydd y digwyddiad masnachwyr ifanc yn dychwelyd i Sir y Fflint yn 2026, ac os hoffech gofrestru eich diddordeb, anfonwch e-bost at jonathan.thomas@flintshire.gov.uk neu gallwch gysylltu â Ffederasiwn Masnachwyr Marchnad Cenedlaethol trwy eu gwefan www.nmtf.co.uk