Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor Sir y Fflint yn sicrhau dros £500,000 o Gyllid Trawsnewid Trefi gan Lywodraeth Cymru er mwyn Adfywio Canol Trefi

Published: 23/06/2025

Mae’n bleser gan dîm Adfywio Cyngor Sir y Fflint gyhoeddi eu bod wedi llwyddo i sicrhau dros hanner miliwn o bunnoedd o gyllid Trawsnewid Trefi gan Lywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26.  Mae’r cyllid hwn yn ein galluogi i lunio Cynllun Creu Lleoedd llwyddiannus ar gyfer canol trefi Bwcle, Treffynnon a Shotton, ac yn cefnogi’r gwaith sy’n mynd rhagddo yn y trefi blaenoriaeth eraill:  Cei Connah, y Fflint, yr Wyddgrug a Queensferry.

WG Award pic.jpg

Mae’r buddsoddiad newydd hwn yn adeiladu ar yr £1,147 miliwn o gyllid sydd eisoes wedi’i sicrhau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2023-25, ac yn atgyfnerthu ymrwymiad y Cyngor i adfywio canol trefi Sir y Fflint. 

Fel rhan o’r cyllid hwn, mae’r cynllun grant datblygu eiddo, a oedd yn hynod lwyddiannus yn 2023-25, bellach wedi ailagor i fusnesau yng nghanol trefi a pherchnogion eiddo yn Nhreffynnon, Bwcle a Shotton.  Bydd y cynllun yn darparu cefnogaeth wedi’i thargedu ar gyfer prosiectau datblygu eiddo mewn canol trefi, gan helpu i roi defnydd newydd i eiddo ac ychwanegu bywyd a ffyniant i ganol trefi. 

Meddai’r Cynghorydd Chris Dolphin, Aelod Cabinet yr Economi, yr Amgylchedd a Newid Hinsawdd Cyngor Sir y Fflint: 

“Mae’r buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru’n dystiolaeth o’r gwaith caled a’r weledigaeth ar gyfer canol trefi Sir y Fflint.   Gan adeiladu ar yr £1.147 miliwn yr ydym eisoes wedi’i sicrhau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2023-25, mae’r cyllid newydd hwn yn golygu hyd yn oed mwy o gefnogaeth ar gyfer busnesau a pherchnogion eiddo lleol.  Drwy gefnogi datblygiad eiddo ym Mwcle, Treffynnon a Shotton, a pharhau â’n cynlluniau ar gyfer Cei Connah, y Fflint, yr Wyddgrug a Queensferry, rydym yn creu canol trefi croesawgar, bywiog a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol.  Rwy’n annog busnesau a pherchnogion eiddo i gysylltu â ni ac ystyried y cyfleoedd sydd ar gael.” 

Gall busnesau a pherchnogion adeiladau yng nghanol trefi gysylltu â regeneration@flintshire.gov.uk am ragor o wybodaeth am y grantiau datblygu eiddo. 

Mae’r gwaith hwn yn rhan o nodau parhaus Cyngor Sir y Fflint i adfywio a rhoi bywyd newydd i ganol trefi a sicrhau dyfodol gwell i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.