Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Canol Trefi Sir y Fflint yn derbyn dros £1.8 Miliwn o Fuddsoddiad, gyda £475,939 pellach wedi’i sicrhau ar gyfer 2025-26
Published: 23/06/2025
Mae’n bleser gan Dîm Adfywio Cyngor Sir y Fflint gyhoeddi buddsoddiad sylweddol i ganol trefi Sir y Fflint. Gyda chefnogaeth ariannol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, mae’r tîm wedi dylunio a darparu ‘Rhaglen Fuddsoddi Canol Tref Sir y Fflint’.

Rhwng 2023 a 2025, sicrhaodd y rhaglen £1.66 miliwn o gyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin, gyda chyfanswm y buddsoddiad yn fwy na £2.07 miliwn wrth gynnwys cyfraniadau gan ffynonellau eraill. Mae’r buddsoddiad wedi bod yn allweddol o ran dechrau’r gwaith sydd ei angen i adfywio saith canol tref: Bwcle, Cei Connah, Y Fflint, Treffynnon, Yr Wyddgrug, Queensferry a Shotton.
Gan adeiladu ar lwyddiant menter 2023-25, mae Tîm Adfywio Sir y Fflint bellach wedi derbyn estyniad i’r rhaglen, a sicrhau £475,939 ychwanegol o gyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin er mwyn buddsoddi ymhellach yng nghanol trefi Sir y Fflint yn 2025-2026.
Mae’r Rhaglen Fuddsoddi Canol Tref yn darparu chwe phrosiect arloesol, gan gynnwys dau gynllun grant sy’n cefnogi buddsoddiadau mewn eiddo canol trefi yn ogystal â gweithgareddau a digwyddiadau lleol. Lluniwyd y mentrau hyn i annog twf economaidd, gwella estheteg canol trefi, ac ymgysylltu â’r gymuned.
Meddai’r Cynghorydd Chris Dolphin, Aelod Cabinet yr Economi, yr Amgylchedd a Newid Hinsawdd Cyngor Sir y Fflint:
“Mae’r cyllid ychwanegol hwn yn dangos ein hymrwymiad parhaus i adfywio canol trefi Sir y Fflint. Mae’n dystiolaeth o waith caled y Tîm Adfywio a’r partneriaethau cryf yr ydym wedi’u datblygu gyda’n cymunedau. Edrychwn ymlaen at barhau i gefnogi busnesau lleol, gwella gofodau cyhoeddus, a dod â phobl at ei gilydd i sicrhau fod canol ein trefi’n llefydd bywiog a ffyniannus i fyw, ymweld a gweithio.”
Am ragor o wybodaeth am y cynlluniau grant, cysylltwch â Thîm Adfywio Sir y Fflint ar regeneration@flintshire.gov.uk.