Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Y Cyngor yn chwifio’r faner i gefnogi Wythnos y Lluoedd Arfog
Published: 26/06/2025
Bu i Gadeirydd Cyngor Sir y Fflint, Cynghorydd Mel Buckley, ynghyd â’r Cynghorydd David Evans, Cefnogwr y Lluoedd Arfog, Capten Wyn Evans o’r Lluoedd wrth Gefn, a Chadetiaid y Fyddin, ymgasglu y tu allan i Ty Dewi Sant yn Ewlo i godi baner y Lluoedd Arfog gyda balchder. Ynghyd â Chynghorwyr eraill daethant ynghyd i gofio dewrder ac ymrwymiad ein haelodau o’r Lluoedd Arfog, yn gyn aelodau a’r rhai presennol.

Dywedodd Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Mel Buckley: “Mae Lluoedd Arfog y DU yn amddiffyn y wlad a’i buddiannau. Bob dydd o’r flwyddyn maent yn brysur yn gweithio ym mhob rhan o’r byd yn hyrwyddo heddwch, darparu cymorth, mynd i’r afael â smyglwyr cyffuriau a darparu diogelwch a brwydro yn erbyn terfysgaeth. Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn gyfle i ddangos cefnogaeth i’r bobl sy’n aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog: o swyddogion sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd i deuluoedd y Lluoedd, cyn-filwyr a chadetiaid. Rydym yn falch o gael chwifio’r faner, sy’n symbol o’n cefnogaeth i’r Lluoedd Arfog, ac mae’n gyfle i ddiolch a chydnabod yr aberth a wnaed – gan aelodau’r Lluoedd Arfog yn y gorffennol, a’r rhai sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd.” Mae’n wych gweld cynrychiolwyr o’r Lluoedd Cadetiaid a’r Lluoedd wrth Gefn yn ymuno â ni y tro hwn.” Bydd y Cyngor yn ail-lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf, gan ailddatgan ei ymrwymiad i sicrhau bod y rhai sy’n gwasanaethu neu wedi gwasanaethu, a’u teuluoedd, yn cael eu trin yn deg ac nad ydynt o dan anfantais oherwydd eu gwasanaeth. Mae Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog Cymru ar ddydd Sadwrn, 28 Mehefin ac fe’i cynhelir gan Gyngor Sir Fynwy.