Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cist Gymunedol Trydydd Sector Sir y Fflint
Published: 08/07/2025
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cefnogi’r trydydd sector am sawl blwyddyn trwy ei grant Cist Gymunedol. Mae’r cynllun yn cynnig grantiau bach o hyd at £1,000 i helpu prosiectau a gweithgareddau sy’n cyfoethogi cymuned leol Sir y Fflint a’i thrigolion.
Ariennir y cynllun Cist Gymunedol gan Gyngor Sir y Fflint ac ers 2015 fe’i gweinyddwyd gan Gyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint.
Dyfarnwyd dros 300 o grantiau o’r cynllun a chefnogwyd ystod eang o grwpiau a gweithgareddau’r trydydd sector gan gynnwys clybiau chwaraeon a gweithgareddau, sefydliadau gofal plant, cyrsiau hyfforddi, a chyfleusterau cymunedol megis neuaddau pentref. Mae mwy o fanylion am y grantiau ar wefan Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint https://www.flvc.org.uk/help-for-organisations/funding-advice/currentgrants/.
Ym mis Gorffennaf 2024, bu i Aelodau’r Cyngor gefnogi parhad cynllun cyllid grant y Gist Gymunedol, yn amodol ar adolygiad sydd i'w gynnal yn 2024/25.
Yn dilyn yr adolygiad hwn, mae newidiadau wedi eu gwneud i’r ffurflen gais i gynorthwyo sefydliadau o ran beth i’w gynnwys wrth ymgeisio i alluogi proses mwy effeithiol.
Dywedodd Damian Hughes, Rheolwr Corfforaethol y Rhaglen Gyfalaf ac Asedau: “Mae’n wych gweld cymaint o sefydliadau yn elwa o’r cynllun hwn i wneud daioni yn ein cymunedau.
Dywedodd Heather Hicks, Swyddog Datblygu’r Trydydd Sector ar gyfer Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint: “Mae Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint yn falch o fod yn rhan o’r rhaglen Cist Gymunedol - cynllun gwych a gwerthfawr sy’n cefnogi sefydliadau lleol sy’n gwneud gwaith allweddol yn ein cymunedau. Rydym yn falch o weinyddu’r gronfa hon ar ran Cyngor Sir y Fflint.”
Dywedodd Linda Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cwsmeriaid a Chorfforaethol: “Mae’r Gist Gymunedol yn gynllun gwych sy’n cefnogi ein cymunedau i ffynnu. Rwy’n falch y gallwn barhau i ddarparu’r cyfle hwn i’n sefydliadau’r Trydydd Sector a byddwn yn annog y rhai sy’n gymwys i wneud cais.”
I gael mwy o fanylion am y Gist Gymunedol ewch i wefan y Cyngor: https://www.flintshire.gov.uk/en/Resident/Funding-pportunities/Community-Chest-Grant.aspxMae Cyngor Sir y Fflint wedi cefnogi’r trydydd sector am sawl blwyddyn trwy ei grant Cist Gymunedol. Mae’r cynllun yn cynnig grantiau bach o hyd at £1,000 i helpu prosiectau a gweithgareddau sy’n cyfoethogi cymuned leol Sir y Fflint a’i thrigolion.
Ariennir y cynllun Cist Gymunedol gan Gyngor Sir y Fflint ac ers 2015 fe’i gweinyddwyd gan Gyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint.
Dyfarnwyd dros 300 o grantiau o’r cynllun a chefnogwyd ystod eang o grwpiau a gweithgareddau’r trydydd sector gan gynnwys clybiau chwaraeon a gweithgareddau, sefydliadau gofal plant, cyrsiau hyfforddi, a chyfleusterau cymunedol megis neuaddau pentref. Mae mwy o fanylion am y grantiau ar wefan Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint https://www.flvc.org.uk/help-for-organisations/funding-advice/currentgrants/.
Ym mis Gorffennaf 2024, bu i Aelodau’r Cyngor gefnogi parhad cynllun cyllid grant y Gist Gymunedol, yn amodol ar adolygiad sydd i'w gynnal yn 2024/25.
Yn dilyn yr adolygiad hwn, mae newidiadau wedi eu gwneud i’r ffurflen gais i gynorthwyo sefydliadau o ran beth i’w gynnwys wrth ymgeisio i alluogi proses mwy effeithiol.
Dywedodd Damian Hughes, Rheolwr Corfforaethol y Rhaglen Gyfalaf ac Asedau: “Mae’n wych gweld cymaint o sefydliadau yn elwa o’r cynllun hwn i wneud daioni yn ein cymunedau.
Dywedodd Heather Hicks, Swyddog Datblygu’r Trydydd Sector ar gyfer Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint: “Mae Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint yn falch o fod yn rhan o’r rhaglen Cist Gymunedol - cynllun gwych a gwerthfawr sy’n cefnogi sefydliadau lleol sy’n gwneud gwaith allweddol yn ein cymunedau. Rydym yn falch o weinyddu’r gronfa hon ar ran Cyngor Sir y Fflint.”
Dywedodd Linda Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cwsmeriaid a Chorfforaethol: “Mae’r Gist Gymunedol yn gynllun gwych sy’n cefnogi ein cymunedau i ffynnu. Rwy’n falch y gallwn barhau i ddarparu’r cyfle hwn i’n sefydliadau’r Trydydd Sector a byddwn yn annog y rhai sy’n gymwys i wneud cais.”
I gael mwy o fanylion am y Gist Gymunedol ewch i wefan y Cyngor: https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Funding-Opportunities/Community-Chest-Grant.aspx