Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Parc Gwepra. Dyffryn Maes Glas a Bryn y Beili yn Derbyn Statws y Faner Werdd 2025

Published: 21/07/2025

Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi bod Parc Gwepra, Dyffryn Maes Glas a Bryn y Beili oll wedi derbyn Gwobr y Faner Werdd ar gyfer 2025 - sy’n eu cydnabod fel rhai o’r mannau gwyrdd gorau yn y DU.

Mae’r nod ansawdd rhyngwladol yn cael ei wobrwyo i barciau a mannau gwyrdd sy’n bodloni’r safonau amgylcheddol uchaf, yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda ac yn darparu cyfleusterau rhagorol i ymwelwyr. Mae ennill statws y Faner Werdd yn anrhydedd mawr ac mae derbyn y statws ar gyfer tri o’n safleoedd tirnodau yn destament i ymroddiad, gofal ac ysbryd cymunedol sy’n cynnal y trysorau naturiol hyn.

Meddai’r Cyng. Chris Dolphin, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio, Cefn Gwlad a Thwristiaeth: “Rydym wrth ein boddau i fod wedi cyflawni statws y Faner Werdd ym Mharc Gwepra, Dyffryn Maes Glas a Bryn y Beili. Mae’r cyflawniad hwn yn adlewyrchu ymdrech anhygoel a’r balchder gan bawb sydd ynghlwm cynnal a chadw a gwella’r gofodau hyn i’r cyhoedd eu mwynhau.”

Yng Nghymru, mae'r cynllun gwobrau yn cael ei gynnal gan Cadwch Gymru'n Daclus. Meddai Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd ar gyfer elusen Cadwch Gymru'n Daclus: “Rydym yn hynod falch o weld 315 o fannau gwyrdd yng Nghymru yn ennill statws mawreddog y Faner Werdd, sy’n destament i ymroddiad a gwaith caled cannoedd o staff a gwirfoddolwyr. “Mae mannau gwyrdd o safon yn chwarae rhan hanfodol yn lles corfforol a meddyliol pobl ledled Cymru, ac mae cael ein cydnabod ymhlith y gorau yn y byd yn gamp enfawr - Llongyfarchiadau!”

Mae Cyngor Sir y Fflint yn diolch i’r timoedd safle a’r rhwydwaith anhygoel o wirfoddolwyr sydd wedi cyfrannu nifer o oriau ar gyfer cynnal a chadw, cadwraeth ac ymgysylltiad cymunedol sy’n gwneud y parciau hyn mor arbennig. Diolch i’w gwaith caled ac ymrwymiad, mae pob safle wedi cael eu cydnabod yn ffurfiol fel y prif fannau gwyrdd - agored, hygyrch a chynaliadwy. Yn arbennig Cyfeillion Bryn y Beili a Chyngor Tref yr Wyddgrug, Cyfeillion Parc Gwepra a’n budd-ddeiliaid parc gwerthfawr, yn ogystal ag Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas a’i wirfoddolwyr cefnogol.

Mae Parc Gwepra yn parhau i fod yn symbol ar gyfer bioamrywiaeth a hamdden i deuluoedd.

Mae Dyffryn Maes Glas yn cynnig cymysgedd cyfoethog o dreftadaeth ddiwydiannol a bywyd gwyllt bywiog.

Mae Bryn y Beili, gyda’i arwyddocâd hanesyddol a golygfeydd, yn parhau i fod yn hafan wyrdd heddychlon yng nghanol yr Wyddgrug.

Gadewch i hyn gael ei nodi fel eiliad o falchder ar gyfer ein cymunedau, ac i’n hatgoffa o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd pobl yn dod ynghyd i ofalu am yr amgylchedd.

DIWEDD 

Nodyn i Olygyddion:

• Mae Gwobr y Faner Werdd yn rhoi cydnabyddiaeth i barciau sydd wedi dangos safonau uchel Gwobr y Faner Werdd. Rhoddir pwyslais hefyd ar gyfranogiad y gymuned leol, o ran gofal parhaus a thymor hir y parc gwobredig.

• Mae partneriaeth ar draws y DU wedi’i arwain gan Cadwch Brydain yn Daclus wedi derbyn trwydded i gynnal y Cynllun Gwobr y Faner Werdd. Bydd Cadwch Brydain yn Daclus yn rheoli'r cynllun cyffredinol o dan drwydded gan yr Adran Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, ac yn parhau i reoli gweithrediadau dyddiol yn Lloegr, gyda'r ddarpariaeth mewn gwledydd eraill yn cael ei goruchwylio gan y chwaer elusennau, Cadwch Gymru'n Daclus, Northern Ireland Beautiful a Keep Scotland Beautiful.

• I gael rhagor o wybodaeth am Wobr y Faner werdd yng Nghymru, ewch i: https://keepwalestidy.cymru/cy/ein-gwaith/gwobrau/y-faner-werdd-ar-gyfer-parciau/

• Mae Parc Gwepra yn fan gwyrdd 160 erw, sy’n cuddio yng Nghalon Cei Connah. Mae’n safle unigryw gyda chynefinoedd a daeareg amrywiol.  Mae’n cynnwys:  Gerddi’r Hen Neuadd, Ffrwd a Rhaeadr, erwau o goetir gyda llwybrau cerdded a Chastell Ewlo i gyd ar agor i'r cyhoedd i'w harchwilio.  Mae gennym faes chwarae am ddim i blant gorau’r rhanbarth, dau gae pêl-droed, pwll pysgota wedi ei reoli’n dda a Chanolfan Ymwelwyr gyda staff i’ch helpu i fwynhau eich ymweliad.  

• Lleolir Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas yn Nhreffynnon, Sir y Fflint, ac mae’n cynnwys 70 erw o hanes diwydiannol.  Yn hanesyddol, roedd Dyffryn Maes Glas yn cyflogi cannoedd o bobl yn ei ffatrïoedd copr a’i felinau cotwm, sydd erbyn hyn yn fannau gwyrdd agored, gwych.  Mae’r Dyffryn yn gartref i nifer o henebion rhestredig ac yn le delfrydol i fywyd gwyllt.  Mae’r Ganolfan Ymwelwyr, sydd am ddim, yn cynnig gwybodaeth ar y diwydiant, gweithgareddau a theithiau cerdded. Rheolir Dyffryn Maes Glas gan Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas, elusen gofrestredig

• Mae Bryn y Beili yn barc cyhoeddus a sefydlwyd yn y 1920au, wedi’i leoli yng nghanol tref farchnad hanesyddol yr Wyddgrug, yn Sir y Fflint. Yn y canol mae gweddillion Castell Mwnt a Beili o’r 11eg Ganrif.  Mae nodweddion nodedig eraill yn cynnwys Bwthyn y Curadur, Senotaff a Chylch Cerrig yr Orsedd Eisteddfod Genedlaethol 1923.