Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymgynghoriad Cyfleusterau Cyhoeddus a gynhelir cyn hir

Published: 05/08/2025

Wedi i gyllid refeniw gael ei dynnu’n ôl, nid yw bellach yn gynaliadwy yn ariannol i gynnal y cyfleusterau toiledau cyhoeddus yn yr Wyddgrug (Gorsaf Fysiau), Treffynnon (oddi ar y Stryd Fawr) a Thalacre (Ffordd yr Orsaf).

Mae angen cefnogaeth leol a gofynnir am opsiynau eraill drwy ymgynghori. Bydd y Cyngor yn ceisio datganiadau o ddiddordeb yn ffurfiol gan y Cynghorau Tref a Chymuned perthnasol ar gyfer y posibilrwydd o drosglwyddo perchnogaeth y toiledau a’u cynnal yn barhaus.  Hefyd, cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus o fis Medi, yn ceisio syniadau ar gyfer datrysiadau eraill i gadw’r cyfleusterau hyn ar agor.  Heb gytundeb drosglwyddo hyfyw, bydd yn rhaid i’r cyfleusterau gau.

Dywedodd y Cynghorydd David Hughes - Arweinydd y Cyngor “Nid ar chwarae bach mae’r Cyngor wedi gwneud y penderfyniad hwn ac rydym yn cydnabod pwysigrwydd y cyfleusterau hyn i gymunedau lleol ac ymwelwyr. Rydym wedi ymrwymo i weithio’n adeiladol gyda sefydliadau partner i archwilio pob dewis arall sydd ar gael. Hoffwn sicrhau’r cyhoedd y bydd y cyfleusterau hyn yn parhau ar agor wrth i ni chwilio am ddarparwyr eraill i’w cynnal, a nes byddwn wedi ymchwilio i bob opsiwn hyfyw yn drylwyr.”

I ddod o hyd i’ch toiled cyhoeddus agosaf, ewch i: https://www.llyw.cymru/dod-o-hyd-i-doiledau-sydd-ar-gael-ir-cyhoedd-eu-defnyddio