Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Parthau 20mya bron âu cwblhau

Published: 29/08/2014

Mae cam cyntaf prosiect i ddarparu arwyddion cynghorol cyfyngiad cyflymder o 20mya tu allan i bob ysgol yn Sir y Fflint wedi’i gwblhau. O’r 83 ysgol yn Sir y Fflint – bydd gan 40 arwyddion parth 20mya newydd yn awr yn barod ar gyfer dechrau’r tymor newydd ym mis Medi. Roedd arwyddion eisoes mewn 19 o ysgolion a disgwylir y bydd y 24 sy’n weddill yn cael eu cwblhau ym mis Hydref. Derbyniodd Cyngor Sir y Fflint y gymeradwyaeth derfynol gan Lywodraeth Cymru i ddarparur arwyddion tu allan i ysgolion y Sir ym mis Gorffennaf ac maent wedi bod yn gweithio i osod cymaint â phosibl cyn i’r plant ddychwelyd i’r ysgol. Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge, a gefnogodd y cynllun: “Rydw i mor falch o gyhoeddi ein bod wedi gorffen cam cyntaf y cynllun ac ein bod ar amser i osod arwyddion cyfyngiad cyflymder o 20mya tu allan i bob ysgol erbyn mis Hydref. “Mae darparu parthau 20mya tu allan i bob ysgol yn y Sir wedi bod yn flaenoriaeth ac ar ôl eu gosod bydd y trefniadau newydd yn gymorth i wella diogelwch ffyrdd trwy sicrhau bod gyrwyr yn fwy ymwybodol o leoliad yr ysgol fydd yn gymorth i sicrhau eu bod yn gostwng eu cyflymder yn briodol. Yn amlwg mae cyflymder yn elfen allweddol o ddiogelwch ffyrdd ac mae hyn yn gam enfawr ymlaen i amddiffyn ein plant.” Mae gwaith ail-wynebu hefyd wedi’i gwblhau tu allan i dair ysgol yng Nghei Connah, yr Wyddgrug a Fflint fel rhan o’r rhaglen barhaus o waith gwella priffyrdd a ddechreuodd yn gynharach eleni. Cwblhawyd y gwaith yn y safleoedd hyn yn ystod gwyliaur haf er mwyn lleihau’r effaith ar yr ysgolion. Pennawd Llun 1: Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint y Cyng. Bernie Attridge, y Cynghorydd Andy Dunbobbin a’r Cynghorydd Paul Shotton ger un or arwyddion cynghorol 20mya tu allan i Ysgol Gynradd Golftyn, Cei Connah. Pennawd Llun 2: Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint y Cyng. Bernie Attridge, y Cynghorydd Andy Dunbobbin a’r Cynghorydd Paul Shotton ar y ffordd sydd wedi’i hailwynebu tu allan i Ysgol Gynradd Golftyn, Cei Connah.