Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Grant Cist Gymunedol 2014-15

Published: 15/04/2014

Mae Grant Cymunedol Cyngor Sir y Fflint ar agor ar gyfer y rownd gyntaf o geisiadau. Sefydlwyd Cynllun Grant y Gist Gymunedol i gefnogi gweithgarwch gwirfoddol a chymunedol yn Sir y Fflint. Yn y gorffennol mae ystod eang o grwpiau cymunedol wedi sicrhau grantiau i ddarparu gwasanaethau lleol a helpu i hyrwyddo ysbryd cymunedol, gan gynnwys clybiau chwaraeon, sefydliadau gofal plant, grwpiau iechyd a chymdeithasau tenantiaid a phreswylwyr. Gall unrhyw sefydliad cymunedol neu wirfoddol di-elw sy’n gweithredu neu’n gwasanaethu Sir y Fflint i gyd neu’n rhannol wneud cais. Gellir gwneud ceisiadau am uchafswm o £1,000. Rhoddir blaenoriaeth i sefydliadau sydd ag incwm blynyddol llai na £10,000. Gall ymgeiswyr sydd ag incwm blynyddol dros hynny wneud cais ond dim ond os gallant ddarparu tystiolaeth glir i ddangos na allai mudiad gwirfoddol cymunedol arall o’r ardal leol ymgymryd â’r prosiect neu’r fenter. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 30 Mai 2014. Am arweiniad ynglyn â sut i wneud cais a/neu i gael ffurflen gais, ffoniwch 01352 702340 neu edrychwch ar wefan: http://www.flintshire.gov.uk/en/YourCouncil/Funding-Opportunities/Community-Ches t.aspx