Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Wythnos Fusnes Sir y Fflint 7-10 Hydref 2014 - Cyflwynor noddwyr

Published: 08/09/2014

Maer prif noddwyr wedi eu cyhoeddi ar gyfer digwyddiad busnes 2014 blaenllaw Sir y Fflint, Wythnos Fusnes Sir y Fflint. Mae Westbridge Furniture Designs wedi ymrwymo i noddir Arddangosfa Fusnes am yr ail flwyddyn yn olynol. Fe’i cynhaliwyd ar 8 Hydref yng Ngholeg Cambria, Glannau Dyfrdwy, ac mae’r arddangosfa yn arddangos dros 70 o stondinau i tua 2,000 o gynrychiolwyr gan greu llwyfan ar gyfer busnes lleol. Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Westbridge Furniture Designs, Paul Islip: “Mae Westbridge Furniture unwaith eto yn falch iawn o fod yn rhan o Wythnos Fusnes Sir y Fflint ac yn falch o fod yn noddwr yr Arddangosfa Fusnes. “Maer arddangosfa undydd yn gyfle unigryw i amrywiaeth eang o fusnesau lleol hyrwyddo eu cwmnïau a byddwn yn annog yn gryf i gynifer â phosibl gymryd rhan. Dymar bedwaredd flwyddyn fel prif noddwr i AGS Security Systems, syn cefnogi Gwobrau Busnes Sir y Fflint. Mae seremoni fawreddog yn Neuadd Sychdyn yn cael ei chynnal ar 17 Hydref lle mae 10 categori gwobrau ar gyfer busnesau lleol. Maer cwmni eu hunain wedi ennill yn y categori Gwobr Busnes Bach yn 2009. Ychwanegodd Jonathan Turner, Rheolwr Gyfarwyddwr, AGS Security Systems: “Mae AGS Security Systems unwaith eto yn falch o fod yn brif noddwr Gwobrau Busnes Sir y Fflint 2014, rydym hefyd wedi ymrwymo i lwyddiant Wythnos Fusnes Sir y Fflint, “Rwyf yn argyhoeddedig y gallai Gwobrau Busnes Sir y Fflint gyflawni canlyniad gwych i chi ach busnes ac rwyf yn bersonol wrth fy modd y gallwn ni chwarae ein rhan. Dywedodd yr Arglwydd Barry Jones, Llywydd Wythnos Fusnes Sir y Fflint: “Ein noddwyr yw dau brif gwmni Sir y Fflint a gyda’u cefnogaeth rwyn siwr y bydd y digwyddiad yn gwneud cynnydd mawr. Wythnos Fusnes Sir y Fflint yw un or digwyddiadau mwyaf blaenllaw oi fath yng Nghymru ac rwyf mor falch o fod yn rhan o dîm mor fentrus a blaengar. Croesawodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet dros Ddatblygu y noddwyr: “Rydym yn falch iawn i gyflwyno dau brif noddwr Wythnos Fusnes y mae eu nawdd yn ychwanegu gwerth at y profiad busnes cyfan. Maer Arddangosfa Fusnes yn denu pobl o bob cwr or rhanbarth ac mae’r Gwobrau Busnes yn gyfle i bobl a chwmnïau gael eu cydnabod am eu cyfraniad at y gymuned economi a busnes leol. “Maer rhain yn ddwy elfen wych ir wythnos a hoffem ddiolch i AGS Security Systems a Westbridge Furniture Designs am eu cefnogaeth. Nodyn ir Golygydd AGS Security Systems Fei sefydlwyd ym 1987 ac maer cwmni yn osodwr achrededig blaenllaw o larymau lladron a thân, teledu cylch caeedig, giatiau a rhwystrau awtomataidd, rheoli mynediad a goleuadau argyfwng ac erbyn hyn mae’n darparu gwasanaeth deiliad allwedd a gwarchodwyr sefydlog yn ogystal â gwasanaeth monitro a chynnal a chadw systemau o safon fyd-eang. Mae eu prif swyddfa yn Sir y Fflint, ond maent wedi ehangu i sefydlu swyddfa yng Nghanolbarth Lloegr ac mae eu cleientiaid yn cynnwys Moneysupermarket, Cyngor Dinas Stoke a Kelloggs. Maer cwmni wedi derbyn cymorth busnes gan dîm datblygu busnes y Cyngor yn y gorffennol. Westbridge Furniture Designs Gyda thair ffatri ym Maes Glas, Glannau Dyfrdwy ac ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy mae’r cwmni yn cynhyrchu dodrefn ar gyfer Ikea, Next, John Lewis ac M&S ac yn arbenigo mewn soffas a chlustogwaith. Mae gweithlu o 850 a thîm dylunio o 30 wedi helpur busnes fynd o fusnes newydd i un â throsiant o £52m mewn deng mlynedd. Derbyniodd Westbridge Furniture gymorth busnes gan dîm busnes Cyngor Sir y Fflint wrth iddynt sicrhau arian gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ehangu i eiddo ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Pennawd y llun Ch-Dd: Paul Islip, Westbridge Furniture Designs, Jonathan Turner, AGS Security Systems, Yr Arglwydd Barry Jones ar Cyng Derek Butler, Cyngor Sir y Fflint.