Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Etholiad Cymunedol Y Fflint
Published: 10/09/2014
Mae pleidlais gymunedol wedi’i alw gan breswylydd o Fflint i ofyn a ddylid
adfer gwelyau cymunedol cleifion y GIG yn y Fflint wedi’i drefnu ar gyfer dydd
Iau 2 Hydref 2014.
Bydd pob un or gorsafoedd pleidleisio arferol yn y Fflint ar agor o 4pm i 9pm
ar y diwrnod. Yn wahanol i etholiadau llawn, ni fydd pleidleiswyr yn derbyn
cerdyn pleidleisio ac ni fydd pleidleisiau post a phleidleisiau trwy ddirprwy
yn gymwys.
Dylai pleidleiswyr fynd iw gorsaf bleidleisio agosaf ar y dydd, lle byddant yn
derbyn cyfarwyddiadau ar sut i bleidleisio. Maer rhestr lawn o orsafoedd
pleidleisio wedi eu nodi isod:-
· Neuadd y Dref, Y Fflint
· Ystafell Gymunedol, Castle Heights, Y Fflint
· Ystafell yn Ysgol Ddiwygiedig Unedig Eglwys Sant Ioan, Y Fflint
· Neuadd Gymunedol Cilfan, Cornist, Y Fflint
· Neuadd, Maes-y-Coed, Woodfield Avenue, Y Fflint
· Clwb Bowlio Oakenholt, Croes Atti Lane, Y Fflint
· Ysgol Uwchradd Y Fflint, Mount Pleasant, Y Fflint
· Ysgol C.P., Mynydd y Fflint, Y Fflint
Cynhelir y cyfrif yn Neuadd y Dref, y Fflint o 9.00pm ar y diwrnod. Bydd staff
y Swyddog Canlyniadau yn cyfri’r pleidleisiau ym mhresenoldeb cynigydd y
cwestiwn, os ydynt yn dewis bod yn bresennol, ac unrhyw berson arall y maer
Swyddog Canlyniadau yn dewis eu gwahodd.
Dywedodd Colin Everett, y Swyddog Canlyniadau: “Dymar Etholiad Cymunedol
cyntaf yr ydym wedi’i gynnal yn Sir y Fflint. Nid ywn cael ei redeg yn yr un
modd âr etholiad llawn neu isetholiad. Bydd cost yr Etholiad Cymunedol i
Gyngor y Dref yn oddeutu £3,000 ac rydym yn anelu i leihaur gost hon gyda
swyddogion yn hepgor eu ffioedd a thrwy ymdrech wirfoddol.