Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Drysau Agored - Ymunwch â ni am gipolwg rhyfeddol i’r gorffennol

Published: 27/08/2025

Mae Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru wedi'i leoli yn yr Hen Reithordy ym Mhenarlâg, adeilad Sioraidd rhestredig Gradd II sydd â’i hanes ei hun sydd yn dyddio’n ôl i’r 18fed Ganrif. 

Yma, gallwch ymchwilio i hanes eich teulu, eich ty, yr ardal leol a llawer mwy! Mae ein cofnodion yn dyddio’n ôl i’r 13eg Ganrif hyd at y presennol.

Yn ein digwyddiad Drysau Agored at y 6ed o Fedi, gallwch wrando ar sgyrsiau difyr, edrych ar arddangosfeydd a dogfennau, a hefyd mynd y tu ôl i’r llen i weld lle mae Archifau Hanesyddol Sir y Fflint yn cael eu cadw mewn storfa ddiogel a reolir yn amgylcheddol.

Thema eleni yw Ymchwilio Hanes Tai yn Sir y Fflint, sy’n cynnwys dwy sgwrs gyffrous: bydd Eleanor Carpenter o Discovering Old Welsh Houses Group yn rhoi trosolwg o waith ymchwil y grwp mewn i adeiladau hanesyddol yn Sir y Fflint; a bydd Dr Angie Sutton-Vane yn cyflwyno ei hymchwil mewn i Blas yn Bwl, cartref hynafol rhestredig Gradd II* yng Nghaergwrle.

Ymunwch â ni am gipolwg rhyfeddol i’r gorffennol a darganfyddwch sut allwch chi ymweld â’r Archifau i ymchwilio hanes eich ty eich hun!

10.00am - Taith gyntaf o amgylch yr ystafell ddiogel (45 munud)

11.00am – Eleanor Carpenter o Discovering Old Welsh Houses Group, yn siarad am ymchwilio i dai hanesyddol yn Sir y Fflint

11.30am - Ail daith o amgylch yr ystafell ddiogel (45 munud)

12.30pm – Dr Angie Sutton-Vane, yn siarad am Blas yn Bwl, ty hynafol yng Nghaergwrle

1.00pm – Trydedd daith o amgylch yr ystafell ddiogel (45 munud)

2.15pm – Diwedd 

Rhif ffôn i archebu 01244 532364; e-bost: archives@newa.wales