Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer Cynlluniau Gwneud Lleoedd yng Nghei Connah a Queensferry

Published: 29/08/2025

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi lansio arolygon ymgynghori cyhoeddus digidol, lle mae pobl leol yn cael eu hannog i helpu i siapio dyfodol Cei Connah a Queensferry.

Dechreuodd y gweithgaredd ymgynghori cychwynnol yn 2023, pan ofynnwyd i’r cyhoedd rannu eu canfyddiadau am Gei Connah a Queensferry fel rhan o broses i ddatblygu ‘Cynlluniau Creu Lleoedd’ ar gyfer saith canol tref. Ar ôl cael dros 1300 o ymatebion i’r ymgynghoriad ar-lein ac wyneb yn wyneb, mae gwaith wedi parhau i ddatblygu’r Cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer Cei Connah a Queensferry.

Gan ddefnyddio Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, mae’r Cynlluniau Creu Lleoedd drafft bellach wedi’u datblygu ar sail data, ymchwil a barn y cyhoedd. Maent bellach wedi cyrraedd y cam drafft terfynol i’w rhannu gyda’r cyhoedd er mwyn ymgynghori arnynt ymhellach, cyn i’r Cyngor a’i bartneriaid allanol ystyried eu mabwysiadu.

Bydd yr ymarfer ymgysylltu diweddaraf hwn yn caniatáu i aelodau’r cyhoedd weld y cynlluniau drafft, y blaenoriaethau allweddol sydd wedi’u pennu, a’r dull arfaethedig i roi’r cynlluniau ar waith. Mae’r arolygon yn ceisio canfod barn y cyhoedd am y blaenoriaethau a’r camau gweithredu a gynigir.

Mae’r gweithgarwch Cynllun Creu Lleoedd yn cael ei arwain gan Dîm Adfywio Cyngor Sir y Fflint mewn cydweithrediad ag amrywiaeth o wasanaethau eraill y Cyngor a sefydliadau partner allanol. Gwneir hyn mewn ymateb i gais Llywodraeth Cymru i bob awdurdod lleol yng Nghymru sefydlu Cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer eu trefi. Mae angen y cynlluniau hyn er mwyn sicrhau y gall buddsoddiad Llywodraeth Cymru fod ar gael i gefnogi prosiectau adfywio canol trefi yn y dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Dolphin Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio, Cefn Gwlad a Thwristiaeth: “Yn debyg i nifer o drefi ar draws y wlad, mae strydoedd mawr Sir y Fflint wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf yn sgil newidiadau i arferion siopa a phandemig covid-19.

“Mae’n bwysig ein bod yn parhau i ddatblygu Cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer trefi ar draws Sir y Fflint gan eu bod yn allweddol i ddenu prosiectau buddsoddi yn y dyfodol a fydd yn cael effeithiau cadarnhaol ar bobl leol a’n heconomi leol”.

Bydd y Cynlluniau Creu Lleoedd yn nodi gweledigaeth y dyfodol ar gyfer pob tref, yn amlinellu blaenoriaethau a all helpu gwella bywiogrwydd ac atyniad cyffredinol y lleoliad, ac yn ceisio mynd i’r afael ag anghenion y bobl sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â’r trefi. Mae datblygu’r cynlluniau ar gyfer pob tref yn creu cyfleoedd i amrywiaeth o fudd-ddeiliaid gydweithio’n well er mwyn gwneud gwelliannau.

Bydd pobl leol sy’n byw, yn gweithio neu’n ymweld â Chei Connah a Queensferry yn cael cyfle i gymryd rhan mewn arolwg ar-lein ynglyn a’u canol trefi o 22 Awst 2025 tan 8 Medi 2025.

https://www.givemyview.com/placemakinginflintshire/surveys/6791243d61e2a399f47b79b1 

Bydd cyfle i bobl leol gymryd rhan mewn sesiynau galw heibio i roi adborth wyneb yn wyneb. 

Bydd y sesiynau’n cael eu cynnal yn Llyfrgell Cei Connah ar y dyddiadau canlynol:

Dydd Llun 8 Medi 2025: 10.00–18.00

Dydd Mawrth 9 Medi 2025: 09.00–18.00

Dydd Mercher 10 Medi 2025: 09.00–17.00

Dydd Iau 11 Medi 2025: 09.00–18.00

Dydd Gwener 12 Medi 2025: 09.00–18.00

Dydd Sadwrn 13 Medi 2025: 9.00–13.00

Dydd Llun 15 Medi 2025: 09.00–12.00

Bydd Tîm Adfywio Cyngor Sir y Fflint yno ddydd Llun 8 a 15 Medi: 10am tan 12pm, os byddai’n well gennych chi siarad yn uniongyrchol â’r tîm, ond bydd cyfl e i lenwi arolwg adborth ar unrhyw adeg yn ystod oriau agor y Llyfrgell fel y gwelwch uchod. 

Bydd y sesiynau’n cael eu cynnal yn y Caffi yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy ar y dyddiadau canlynol:

Dydd Llun 8 Medi 2025: 10.00–18.00

Dydd Mawrth 9 Medi 2025: 09.00–18.00

Dydd Mercher 10 Medi 2025: 09.00–18.00

Dydd Iau 11 Medi 2025: 09.00–18.00

Dydd Gwener 12 Medi 2025: 09.00–18.00

Dydd Sadwrn 13 Medi 2025: 09.00–13.00

Dydd Llun 15 Medi 2025: 09.00–12.00

Bydd Tîm Adfywio Cyngor Sir y Fflint yno ddydd Llun 8 a 15 Medi: 10am tan 12pm, os byddai’n well gennych chi siarad yn uniongyrchol â’r tîm, ond bydd cyfl e i lenwi arolwg adborth ar unrhyw adeg yn ystod oriau agor y ca fel y gwelwch uchod. #UKSPF