Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Preswylwyr yn cael eu gwahodd i ddweud eu dweud am Strategaeth Dai ddrafft

Published: 23/09/2025

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi lansio ymgynghoriad ynghylch ei Strategaeth Dai ar gyfer 2025 - 2030, sy’n nodi’r weledigaeth er mwyn sicrhau bod pobl yn cael y cartref cywir yn y lleoliad cywir.

Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld newidiadau sylweddol gyda galw parhaus am dai a chartrefi newydd.  Mewn ymateb i hyn, mae’r Cyngor yn adeiladu mwy o eiddo newydd, yn gwella mynediad at dai fforddiadwy, yn gwneud gwell defnydd o’n stoc ac yn gwneud pryniadau strategol.

Mae’r costau byw cynyddol wedi golygu bod fforddiadwyedd wedi dod hyd yn oed yn fwy heriol ac rydym wedi ymrwymo i ddeall y galw yn well, fel y gallwn barhau i dargedu ein hadnoddau i’r preswylwyr hynny sydd angen ein cymorth fwyaf.

Mae’r strategaeth newydd hon yn amlinellu ein gweledigaeth hirdymor i ddarparu’r cartrefi y mae pobl eu heisiau a’u hangen, ac mae wedi’i hadeiladu o amgylch y blaenoriaethau canlynol:

  • Cynyddu’r cyflenwad i ddarparu’r cartrefi cywir yn y lleoliad cywir.
  • Atal a lleihau digartrefedd, gan ostwng y defnydd o lety mewn argyfwng / dros dro.
  • Cefnogi pobl i gael mynediad, i fyw ac i aros yn y math cywir o gartref.
  • Datblygu a buddsoddi mewn tai fforddiadwy a thai cymdeithasol.
  • Gwneud y defnydd gorau o’r stoc bresennol gan sicrhau bod y gymysgedd o anheddau yn ateb y galw.

Mae’r strategaeth yn cydnabod rhai o’r heriau mwyaf arwyddocaol sy’n wynebu’r sir, gan gynnwys cynnydd yn nifer y bobl sy’n dod yn ddigartref a’r galw cynyddol am lety dros dro ac mewn argyfwng. Mae’n nodi’n fanwl sut mae’r Cyngor a’i bartneriaid yn bwriadu mynd i’r afael â’r materion hyn gan ddarparu blaenoriaethau tai ehangach hefyd.

Mae’r ymgynghoriad ar agor i breswylwyr a budd-ddeiliaid tan 1 Hydref, 2025 ac mae ar gael ar-lein yma.