Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgolion Sir y Fflint yn dod yn Hyrwyddwyr Eco

Published: 29/09/2025

Mae rhaglen Hyrwyddwyr Eco Cyngor Sir y Fflint yn galluogi myfyrwyr ysgolion cynradd i gymryd camau ymarferol er lles ein hamgylchedd. 

Mae Hyrwyddwyr Eco Sir y Fflint yn archwilio bioamrywiaeth, newid hinsawdd, ynni a chynaliadwyedd mewn modd hwyliog a diddorol, gan rannu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar y disgyblion i wneud gwahaniaeth. Drwy gefnogi pobl ifanc i ddeall yr heriau a'r camau y gallant eu cymryd, mae'r rhaglen yn cefnogi dyfodol mwy gwyrdd a diogel ar gyfer Sir y Fflint.

Yn gynharach yn 2025, cymerodd y disgyblion ran ym mhrosiect Hyrwyddwyr Eco Sir y Fflint, ac mae disgwyl iddo barhau o fis Medi ymlaen. Bydd y disgyblion yn archwilio'r cysylltiadau rhwng newid hinsawdd a cholli natur, sut y gall creu cynefinoedd naturiol helpu bywyd gwyllt mewn ysgolion a gerddi a byddant yn dysgu am arbed ynni a lleihau gwastraff. Mae'r rhaglen yn ysbrydoli plant i feddwl yn greadigol am wneud gwahaniaeth yn yr ysgol a'r cartref, gan gefnogi cenhedlaeth o ddysgwyr sy'n ymwybodol o'r amgylchedd.  

Cyflwynir prosiect Hyrwyddwyr Eco Sir y Fflint gan Dîm Datblygu Chwarae profiadol Cyngor Sir y Fflint, gyda chefnogaeth y Tîm Amgylchedd Naturiol, sydd wedi cael eu canmol am y brwdfrydedd a'r amrywiaeth y maent yn eu cynnig i’r sesiynau. Ariennir y rhaglen gan grant drwy gyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, Llywodraeth Cymru. 

Meddai’r Cynghorydd Chris Dolphin, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio, Cefn Gwlad a Thwristiaeth: “Mae Hyrwyddwyr Eco Sir y Fflint yn ffordd wych o arddangos y cydweithio ar draws adrannau, rhwng y Tîm Amgylchedd Naturiol a’r Tîm Datblygu Chwarae yng Nghyngor Sir y Fflint. Mae gweithredu dros natur a chenedlaethau’r dyfodol yn bwysig ar draws ein holl swyddogaethau. Mae’n wych gweld cyllid grant yn cael ei sicrhau ar gyfer cyflawni prosiect mor gadarnhaol.” 

I ddysgu mwy am y Rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, ewch i: https://www.llyw.cymru/rhaglen-lleoedd-lleol-ar-gyfer-natur

I fynegi diddordeb ym mhrosiect Hyrwyddwyr Eco Sir y Fflint, anfonwch e-bost at bioamrywiaeth@siryfflint.gov.uk, bydd rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalennau gwe yn fuan. 

I ddysgu mwy am ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol, ewch i: https://www.llyw.cymru/llesiant-cenedlaethaur-dyfodol-cymru