Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynnal gwaith diogelwch ar gofebion anniogel

Published: 06/10/2025

Mae’r Cyngor yn bwriadu cychwyn gwaith diogelwch hanfodol ar gofebion  anniogel ym mynwentydd Sir y Fflint yr hydref hwn.

Mae oddeutu 650 o gofebion wedi cael eu nodi fel eu bod yn anniogel ac yn cael eu cefnogi dros dro gan bolion pren. Er bod y polion hyn yn darparu sefydlogrwydd dros dro, nid ydynt yn ddatrysiad parhaol, gan fod modd eu tynnu, a gallant ddirywio dros amser. Rwan, mae’n rhaid i’r Cyngor sicrhau bod datrysiad hirdymor yn cael ei roi ar waith.

Bydd cam cyntaf y rhaglen yn canolbwyntio ar gofebion sy’n cael eu cynnal gan bolion pren ar hyn o bryd, ond sydd heb gael eu hatgyweirio. Bydd y polion yn cael eu tynnu o’r cofebion hyn, yn cael eu tynnu o’r bedd, ac yna’n cael eu dychwelyd yn ôl i ddyfnder o chwech i wyth modfedd. Bydd y gwaith cloddio’n cael ei ail-lenwi a’i gywasgu er mwyn sicrhau sefydlogrwydd a diogelwch.

Pan nad oes modd atgyweirio cofeb yn ddiogel oherwydd sylfaen goncrid, bydd yn cael ei rhoi i orwedd yn fflat ar y bedd.

Cynghorir teuluoedd sydd â chofebion a gefnogir gan bolion pren i drefnu atgyweiriadau cyn i’r gwaith hwn gychwyn.

Meddai’r Cynghorydd Ted Palmer, aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros fynwentydd: “Dylai mynwentydd fod yn lleoedd diogel, a pharchus i deuluoedd ac ymwelwyr. Mae’r rhaglen hon o waith yn gam angenrheidiol er mwyn sicrhau bod ein safleoedd yn ddiogel i bawb.”