Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cronfa Buddion Cymunedol Parc Adfer yn ariannu prosiectau gwerth £450,000

Published: 16/10/2025

Mae Partneriaeth Prosiect Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru (NWRWTP) ac Enfinium yn falch o gyhoeddi bod Cronfa Buddion Cymunedol Parc Adfer bellach wedi ariannu cyfanswm o 18 prosiect gwerth £450,000 hyd yn hyn, ac mae ceisiadau’n dal ar agor!  

Ffurfiwyd NWRWTP gan bum Cyngor yng Ngogledd Cymru – Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Dinbych, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn – i reoli’r gwastraff gweddilliol a gynhyrchir gan aelwydydd o’r pum awdurdod lleol ar y cyd. Gwastraff gweddilliol yw'r gwastraff nad oes modd ei ailgylchu sy'n weddill ar ôl ailgylchu a chompostio cymaint â phosibl. 

Mae cyfleuster Creu Ynni o Wastraff Enfinium Parc Adfer wedi'i leoli ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, ac mae’n dargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi ac yn cynhyrchu digon o drydan adnewyddadwy ar gyfer tua 30,000 o gartrefi a busnesau.  

Fel rhan o'u hymrwymiad i'r gymuned leol, fe wnaeth y Bartneriaeth ac Enfinium addo ariannu'r Gronfa Buddion Cymunedol hirdymor – gwerth £230,000 y flwyddyn – ar gyfer cymunedau yn ardal Glannau Dyfrdwy.  

Mae Cronfa Buddion Cymunedol hirdymor Parc Adfer wedi'i lansio ac fe ddechreuodd dderbyn ac asesu’r ceisiadau cyntaf ddiwedd 2023. Nod y gronfa yw cefnogi prosiectau sy'n helpu neu a fydd o fudd i'r amgylchedd lleol. Bydd yn cefnogi pum prif faen prosiect, sef:- 

1. Egni adnewyddadwy

2. Lleihau carbon 

3. Ailddefnyddio, ailgylchu a lleihau gwastraff 

4. Bioamrywiaeth a gwelliannau i ansawdd yr amgylchedd lleol

5. Datgarboneiddio cludiant 

Y mathau o sefydliadau lleol a all fod yn gymwys i dderbyn cefnogaeth gan Gronfa Buddion Cymunedol Parc Adfer yw sefydliadau cymunedol a gwirfoddol, mentrau cymunedol a chymdeithasol ac elusennau sy'n gweithio o fewn Ardal ddiffiniedig Partneriaeth Glannau Dyfrdwy. 

Mae'r Bartneriaeth yn falch o gyhoeddi, ers dyfarniad y rownd gyntaf o geisiadau ar gyfer Cronfa Buddiannau Cymunedol Parc Adfer ddiwedd 2023, ei bod wedi darparu grantiau i 18 o brosiectau gwerth £450,000, ac mae'r gronfa'n dal i dderbyn ceisiadau. 

Ceir enghreifftiau o brosiectau sydd wedi’u cyflawni’n llwyddiannus gan ddefnyddio cyllid o Gronfa Buddion Cymunedol Parc Adfer isod. 

Dyfarnwyd £730 i Gyfeillion Gerddi Quayscape ar gyfer eu prosiect gardd gymunedol, lle plannodd y gwirfoddolwyr amrywiaeth o goed a llwyni i gynyddu'r diddordeb tymhorol yn yr ardd.  Fe wnaethon nhw hefyd hau hadau blodau gwyllt yn ardal y ddôl a phlannu 500 o fylbiau gan gynnwys clychau’r gog ac eirlysiau. 

Cadarnhaodd cadeirydd Cyfeillion Gerddi Quayscape, Jayne Rowland, bod grant Parc Adfer wedi “cael effaith sylweddol ar yr ardd ac mae nawr yn annog llawer o aelodau’r cyhoedd i’w defnyddio ac mae mwy o fywyd gwyllt a bioamrywiaeth yno”. 

Enghraifft arall o brosiect a gefnogir gan y Gronfa yw Cambrian Aquatics, a dderbyniodd £42,000 tuag at offer i gynyddu effeithlonrwydd y system rheoli pyllau (gwresogi, dosio ac ati).  

Meddai Susan Banks, Rheolwr y Ganolfan yn Cambrian Aquatics, “Mae’r prosiect hwn yn fuddsoddiad strategol yn nyfodol ein cyfleuster, gan sicrhau ased cymunedol mwy effeithlon, sy’n amgylcheddol gyfrifol, gydag elfennau technolegol datblygedig”   

Yn olaf, enghraifft arall yw Rainbow Biz, a sicrhaodd gyllid ar gyfer eu prosiect ‘Garddio’r Glannau’, sydd wedi ariannu’r gwaith o adeiladu rhandir newydd yn Sefydliad Cofeb Rhyfel Queensferry, yn ogystal ag ariannu offer garddio amrywiol, ty gwydr, paneli solar i wefru offer garddio a helpu gyda chostau cyflog cydlynydd prosiect. Mae'r prosiect wedi arwain at ddatblygu’r safle o fod yn ardd nad oedd yn cael ei defnyddio i fod yn ganolbwynt tyfu, dysgu a gweithgarwch. 

Meddai Ian Forrester, Cyfarwyddwr Cwmni Buddiannau Cymunedol RainbowBiz, "Heb gefnogaeth Parc Adfer ni fyddai ein safle newydd, Garddio'r Glannau, wedi bod yn bosibl.  Yn 2023, roedden ni mewn sefyllfa i roi’r gorau i’r prosiect yn dilyn llifogydd ar ein hen safle. Byddai hynny wedi golygu y byddai’r oedolion diamddiffyn yr ydym ni’n eu cefnogi yn colli’r cysylltiadau hanfodol a gafodd eu meithrin dros y 10 mlynedd diwethaf.  

Diolch i Barc Adfer, rydym wedi llwyddo i adeiladu safle sy’n gallu darparu ar gyfer mwy o bobl yn Queensferry. Cyrraedd mwy o bobl yn y gymuned, cynnal y cysylltiadau sydd wedi’u gwneud ac wrth gwrs, darparu’r sgiliau i dyfu eich bwyd eich hun. Diolch yn fawr iawn i Barc Adfer am eu cefnogaeth." 

Meddai’r Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Gwastraff a Chludiant Cyngor Sir y Fflint: 

“Mae Cronfa Buddion Cymunedol Parc Adfer yn gronfa hirdymor er budd cymunedau yn ardal y bartneriaeth, yn enwedig y rheiny sydd agosaf at Barc Adfer, gan ganolbwyntio ar ariannu prosiectau sy’n helpu neu o fudd i’r amgylchedd. Rwy'n falch iawn o weld y prosiectau gwych sydd wedi’u hariannu eisoes a byddwn yn annog pob sefydliad cymwys i wneud cais ar gyfer y gronfa. Bydd y cynllun hwn yn helpu i barhau â’r gwaith amgylcheddol gwerth chweil sydd eisoes yn cael ei wneud." 

Meddai David Cottis, Rheolwr Ffatri Enfinium Parc Adfer: “Mae Enfinium Parc Adfer yn falch o gefnogi'r gymuned drwy Gronfa Buddion Cymunedol Parc Adfer. Mae'n wych gweld prosiectau mor fuddiol yn cael eu hariannu, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i helpu i wneud gwahaniaeth i sefydliadau a phreswylwyr yn y gymuned leol.” 

Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer Cronfa Buddion Cymunedol Parc Adfer a dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn cael cyllid o’r gronfa gysylltu â’r tîm trwy ffonio 01352 704686 neu anfon e-bost at ParcAdferCommunityFund@flintshire.gov.uk.