Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Preswylwyr yn Uno i Adennill eu Strydoedd Cefn

Published: 22/10/2025

2.jpg

Mae rhywbeth gwirioneddol bwerus yn digwydd pan ddaw cymunedau at ei gilydd gyda phwrpas a rennir. Rydym yn gweld hyn mwy a mwy wrth i breswylwyr ar draws ein cymunedau dorchi llewys ac uno i drawsnewid strydoedd cefn sydd wedi’u hesgeuluso y tu ôl i’w cartrefi. Tra bo mwyafrif y mannau hyn yn perthyn i berchnogion preifat ac yn disgyn y tu allan i’r rhwydwaith priffyrdd mabwysiedig - sy’n golygu nad yw adran Gwasanaethau Strydoedd Cyngor Sir y Fflint yn gyfrifol am eu cynnal a’u cadw yn ôl y gyfraith - mae trigolion lleol yn camu ymlaen i wneud gwahaniaeth go iawn.

Mae tasg sy’n ymddangos fel un llethol i un unigolyn yn dod yn un hawdd, a hyd yn oed yn llawn mwynhad, pan ddaw cymdogion at ei gilydd ar y cyd â gwirfoddolwyr i weithredu. Dangosodd prosiect diweddar yn Ward Golftyn wir ysbryd cymunedol wrth i drigolion nid yn unig glirio eu stryd gefn eu hunain, ond ymestyn eu hymdrechion i fynd i’r afael ag un arall ar draws y ffordd hefyd.

Mae’r ymdrechion glanhau hyn yn fwy na chael gwared ar sbwriel yn unig. Maent yn gyfle i gymdogion gysylltu, dod i adnabod ei gilydd, a chreu cymuned gryfach a mwy cydlynol. Yn y digwyddiad diweddar hwn, trefnodd un aelwyd orsaf de, coffi a bisgedi, bu preswylydd arall yn brysur yn pobi cacen, a darparodd y cynghorydd frechdanau - gan brofi bod pob cyfraniad yn cyfrif, boed yn waith ymarferol corfforol neu gadw pawb i fynd gyda lluniaeth a chymhelliant.

1.jpg
5.jpg

“Mae pawb yn cyfrannu rhywbeth gwahanol”, meddai Swyddog Cadwch Gymru'n Daclus Sir y Fflint, Carolyne Prew. “Nid oes angen i bawb godi bagiau - gall helpu olygu unrhyw beth o baratoi diodydd, rhannu gwybodaeth, a defnyddio eu cysylltiadau a dangos cefnogaeth.”

Bydd y prosiect diweddaraf hwn hefyd yn cynnwys gosod camerâu TCC ar y strydoedd cefn, wedi’i ariannu gan y Cynghorydd David Franko Richardson trwy Gronfa Trigolion Golftyn - rhywbeth sydd wedi gweithio’n effeithiol mewn mentrau tebyg yng Nghei Connah a’r Wyddgrug. Yn yr ardaloedd hynny, unwaith y dechreuodd trigolion weithio gyda’i gilydd a chyfathrebu’n agored, daeth achosion o dipio anghyfreithlon i ben yn gyfan gwbl.

3.jpg

Cefnogir pob ymdrech lanhau gan ddeunyddiau codi ymwybyddiaeth am waredu gwastraff yn briodol, Dyletswydd Gofal a sut i roi gwybod am dipio anghyfreithlon. Dros amser, mae llawer o’r strydoedd cefn yn plismona eu hunain. Mae preswylwyr newydd yn cael eu croesawu gan lythyr yn esbonio beth yw gwerthoedd y grwp a disgwyliadau syml i gadw’r ardal yn lân.

Lle’r oedd tipio anghyfreithlon yn arfer bod yn gyffredin, mae monitro a chodi ymwybyddiaeth dan arweiniad y gymuned bellach wedi newid y deinameg yn gyfan gwbl. Mewn prosiectau yn y gorffennol, mae hyd yn oed gosod camerâu TCC mewn ychydig o aelwydydd wedi cael effaith arwyddocaol. Mewn un achos, ar ôl i’r grwp gysylltu â nhw, aeth yr aelwyd a oedd yn gyfrifol ati i gael gwared ar wastraff a oedd wedi’i dipio’n anghyfreithlon o fewn awr.

Mae’r ymdrechion hyn yn amlygu pwer gweithredu cymunedol. Pan ddaw trigolion at ei gilydd gyda nod a rennir, gallant drawsnewid ac adennill eu mannau - gan eu gwneud yn fwy deniadol i’r llygad, ac atal niwed amgylcheddol ar yr un pryd a meithrin perthnasoedd parhaus yn y broses.

Mae’r holl brosiectau hyn wedi bod yn bosibl diolch i gydweithrediad cynghorwyr lleol, adran Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir y Fflint, a Cadwch Gymru’n Daclus - sy’n parhau i rymuso cymunedau i gymryd perchnogaeth o’u hamgylcheddau lleol trwy ariannu gwaredu gwastraff o ardaloedd a enwebwyd gan y Gwasanaethau Stryd ond sy’n disgyn y tu allan i’w cyfrifoldeb uniongyrchol. Mae pob prosiect yn unigryw i’w ardal - mae ei gynnydd, ei ganlyniad terfynol a chynaliadwyedd hirdymor yn dibynnu’n fawr ar ddisgwyliadau, ymrwymiad a pharodrwydd trigolion i ymgysylltu â ni.

Am ragor o wybodaeth ar sut i gymryd rhan mewn prosiectau glanhau strydoedd cefn neu i ddechrau prosiect yn eich ardal, cysylltwch â cadwchsiryfflintyndaclus@siryfflint.gov.uk

4.jpg