Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwastraff Gardd (Casgliad Ychwanegol)

Published: 06/11/2025

Gwastraff Gardd

Fe hoffai Cyngor Sir y Fflint roi gwybod i breswylwyr, oherwydd amhariadau gweithredol ar ddechrau gwasanaeth gwastraff gardd eleni, a’r newid diweddar i amserlen gasglu tair wythnos, fe fydd Gwasanaeth Casglu Gwastraff Gardd 2025 yn cael ei ymestyn am gyfnod o bythefnos, er mwyn sicrhau bod pob eiddo sydd wedi tanysgrifio yn derbyn casgliad ychwanegol.

Fe fydd y casgliad ychwanegol yma’n digwydd ar ôl 28 Tachwedd, o fewn y cyfnod rhwng dydd Llun 1 Rhagfyr a dydd Gwener 12 Rhagfyr 2025.

Gweler yr enghreifftiau canlynol:

  • Os yw eich casgliad arferol diwethaf yn cael ei gasglu ddydd Llun 17 Tachwedd, fe fydd eich casgliad ychwanegol yn digwydd ddydd Llun 1 Rhagfyr.
  • Os yw eich casgliad arferol diwethaf yn cael ei gasglu ddydd Gwener 28 Tachwedd, fe fydd eich casgliad ychwanegol yn digwydd ddydd Gwener 12 Rhagfyr.

Sicrhewch fod eich bin brown yn cael ei osod ar ymyl y palmant erbyn 7:00am ar eich diwrnod casglu arferol, ac mai dim ond deunydd gwastraff gardd a dderbynnir sydd ynddo. Efallai na fydd biniau sydd â mathau eraill o wastraff ynddynt yn cael eu gwagio.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir gan yr amhariadau cynharach i’r gwasanaeth, a diolch i chi am barhau i danysgrifio i’n gwasanaeth gwastraff gardd.