Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor Sir y Fflint yn Cwblhau Prosiect Glanhau Gwm

Published: 05/11/2025

Glanhau Gwm Cnoi - Cyngor Sir y Fflint

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gweithio ar brosiect i lanhau gwm cnoi a lleihau nifer y bobl sy’n gollwng gwm cnoi ar y stryd gyda chymorth grant y Tasglu Gwm Cnoi, a weinyddir gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Brydain yn Daclus.

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cyhoeddi eu bod wedi cwblhau ei waith i gael gwared â’r gwm cnoi sy’n difetha’r strydoedd lleol ar ôl derbyn grant gwerth £27,500 i fynd i’r afael â’r mater yn gynharach eleni.

Roedd y Cyngor yn un o 52 o gynghorau ar draws y wlad a ymgeisiodd yn llwyddiannus i’r Tasglu Gwm Cnoi, sydd bellach yn ei bedwaredd flwyddyn, am gyllid i lanhau gwm cnoi oddi ar balmentydd ac atal pobl rhag gollwng gwm cnoi ar y strydoedd eto.

Ymysg y gweithgareddau mae’r timau glanhau wedi’u gwneud dros y misoedd diwethaf yw glanhau a gosod arwyddion.

Caiff y Tasglu ei ariannu gan wneuthurwyr gwm cnoi mawr yn cynnwys Mars Wrigley a Perfetti Van Melle, gyda buddsoddiad o hyd at £10 miliwn wedi’i wasgaru dros bum mlynedd.

Wedi’i sefydlu gan Defra (Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig) a’i redeg gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Brydain yn Daclus, mae Cynllun Grant y Tasglu Gwm Cnoi ar agor i gynghorau ar draws y DU sydd eisiau glanhau gwm cnoi yn eu hardaloedd lleol a buddsoddi mewn newid ymddygiad hirdymor i atal gwm cnoi rhag cael ei ollwng yn y lle cyntaf.

Mae’r gwaith monitro a gwerthuso a gynhaliwyd gan Behaviour Change – menter gymdeithasol nid er elw – wedi dangos bod cyfradd is o gwm cnoi yn cael ei ollwng ar y stryd, yn yr ardaloedd sydd wedi elwa o’r flwyddyn gyntaf o gyllid, yn dal i fod chwe mis ar ôl cwblhau’r gwaith glanhau a gosod y deunyddiau atal.

Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod costau blynyddol glanhau gwm cnoi i gynghorau yn y DU yn oddeutu £7 miliwn ac, yn ôl Cadwch Brydain yn Daclus, mae oddeutu 77% o strydoedd Lloegr a 99% o safleoedd manwerthu wedi’u staenio â gwm cnoi.

Dywedodd llefarydd ar ran Cadwch Gymru’n Daclus: “Mae gwm cnoi yn parhau i fod yn ffurf blêr o sbwriel yn ein mannau cyhoeddus – wedi dweud hynny, mae’r cynllun yma’n arwain at ostyngiadau sylweddol. Mae angen i bobl gofio bod gwaredu â gwm cnoi mewn modd anghyfrifol yn achosi niwed i’n hamgylchedd ac mae’n cymryd blynyddoedd i bydru yn naturiol – ac yn y pendraw, y cyhoedd sy’n gorfod talu am ei lanhau.”

Drwy gyfuno glanhau strydoedd wedi’i dargedu gydag arwyddion sydd wedi’u dylunio’n arbennig i annog pobl i roi eu gwm cnoi yn y bin, llwyddodd y cynghorau a gymerodd ran y llynedd i leihau nifer y bobl sy’n gollwng gwm cnoi ar y stryd o hyd at 60% yn y ddeufis cyntaf.