Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Diwrnod Hawliau Gofalwyr 2025 - ‘Gwybod eich hawliau, defnyddio eich hawliau’
Published: 17/11/2025

Eleni, cynhelir Diwrnod Hawliau Gofalwyr ddydd Iau 20 Tachwedd 2025 – a’r thema eleni yw ‘Gwybod eich hawliau, defnyddio eich hawliau’.
Gofalwr yw unrhyw un sy'n gofalu, yn ddi-dâl, am ffrind neu aelod o'r teulu sydd, oherwydd salwch, anabledd, gwendid, problem iechyd meddwl neu ddibyniaeth, yn methu ag ymdopi heb eu cefnogaeth.
Gall gofalwr fod o unrhyw oedran, gan gynnwys:
- Gofalwr ifanc o dan 18 oed.
- Rhiant sy’n ofalwr i blentyn sydd ag anghenion cymorth ychwanegol.
- Ffrind neu gymydog sy’n darparu cymorth i rywun sy’n fregus.
- Gwr, gwraig neu bartner.
- Rhywun sy’n gofalu am riant oedrannus sydd angen cymorth.
- Gall gofalu am rywun gymryd ychydig o oriau bob wythnos, neu gall gofalwr fod yn gofalu am 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
Ledled y DU mae gofalwyr yn darparu cymorth allweddol ac amhrisiadwy i bartner, aelod o’r teulu neu ffrind. Nid yw nifer o bobl yn gweld eu hunain fel gofalwyr, ac yn aml nid ydynt yn ymwybodol o’u hawliau a’r hyn sydd ar gael iddynt o ran cymorth a budd-daliadau.
Os ydych yn ofalwr newydd neu wedi bod yn gofalu am aelod o’r teulu, ffrind neu gymydog am beth amser, efallai y byddwch yn teimlo nad oes unrhyw un yn gwrando arnoch neu nad ydych yn cael eich cefnogi, ond fel gofalwr di-dâl mae gennych hawliau.
Wyddoch chi fod hawliau gofalwr di-dâl yn cynnwys:
- Hawl i gael Asesiad Gofalwr i nodi eich anghenion cymwys a’u diwallu.
- Hawliau yn y gwaith a’r hawl i beidio ag wynebu gwahaniaethu oherwydd eich cyfrifoldebau gofalu.
- Hawl i gael eich cydnabod fel gofalwr.
- Hawl i gael eich cynnwys wrth gynllunio trefniadau rhyddhau o’r ysbyty.
- Hawl gofalwr i gael egwyl.
- Hawl i gofrestru fel gofalwr di-dâl gyda’ch Meddyg Teulu er mwyn i chi gael mynediad at wiriadau iechyd a brechiadau.
- Hawl i ofalwyr di-dâl gael hyd at 5 diwrnod i ffwrdd o’r gwaith yn ddi-dâl er mwyn cyflawni eu cyfrifoldebau gofalu.
Yn Sir y Fflint rydym yn falch o gefnogi dros 11,500 o drigolion sydd â chyfrifoldebau gofalu, trwy wasanaethau mewnol a’n sefydliadau partner.
Meddai’r Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae gofalwyr a gofalwyr ifanc yn chwarae rôl hanfodol yn ein cymunedau, ac mae’n bwysig eu bod yn gwybod am y gefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw yn bersonol. Rydw i’n ymfalchïo yn yr amrywiaeth eang o wasanaethau sydd ar gael i ofalwyr ledled Sir y Fflint, a rhoddaf wahoddiad cynnes i unrhyw un sydd angen cymorth i estyn allan.”
Meddai Craig Macleod, Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol: “Rydym yn gwerthfawrogi’r rôl hanfodol y mae gofalwyr – gan gynnwys gofalwyr ifanc – yn ei chwarae wrth gefnogi eu hanwyliaid, ac rydym yn cydnabod y bydd angen cefnogaeth arnyn nhw hefyd. Mae lles gofalwyr yn flaenoriaeth ac rydym yn ymroddedig i sicrhau eu bod yn gwybod bod ystod eang o help, arweiniad a chefnogaeth ar gael pryd bynnag y bydd ei angen arnynt – nid dim ond mewn argyfwng. Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth yn y gymuned sy’n darparu cymorth ymarferol ac emosiynol ochr yn ochr â gwasanaethau statudol i ddiogelu hawliau a lles gofalwyr.”
Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru (GOGDdC), a gomisiynir gennym i ddarparu gwasanaethau i ofalwyr, wedi'i leoli ar Stryd Fawr yr Wyddgrug (38–42 Stryd Fawr, Yr Wyddgrug, CH7 1BB) ac mae’n croesawu gofalwyr i alw heibio i gael gwybod am yr ystod o wahanol wasanaethau a all eu cefnogi yn eu rôl ofalu.
Mae gwybodaeth ar gael hefyd ar eu gwefan.
Meddai Prif Weithredwr GOGDdC, Claire Sullivan: “Rydym yn edrych ymlaen at groesawu gofalwyr i’n Canolfan Ofalwyr. Gallwn gynnig ystod eang o gymorth i ofalwyr gan gynnwys cymorth ariannol, cynllun seibiant sydd wedi ennill gwobrau, asesiadau o anghenion gofalwyr, cwnsela, hyfforddiant, grwpiau cefnogi cyfoedion, cymorth ysbyty a mwy. Gall GOGDdC helpu gofalwyr i gael gafael ar wybodaeth, arweiniad a chefnogaeth os oes arnynt angen cymorth yn eu rôl gofalu, yn ogystal â rhoi gwybod iddynt am eu hawliau fel gofalwr di-dâl. Felly dewch draw i’n gweld ni.”