Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ymgynghoriad – rhwystrau’r rhwydwaith beicio lleol
Published: 27/11/2025
Mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnal adolygiad o rwystrau ar draws y rhwydwaith beicio lleol i sicrhau bod llwybrau yn ddiogel, yn hygyrch ac yn gynhwysol i’r holl ddefnyddwyr. Mae’r adolygiad yn rhan o Asesiad o Effaith Cynhwysol y Cyngor, sy’n gwerthuso pob rhwystr o ran hygyrchedd, diogelwch, a chydymffurfiaeth â Chanllawiau Deddf Teithio Llesol (2021).
Mae pob rhwystr yn cael ei asesu’n unigol, a gall argymhellion gynnwys:
• Tynnu’r rhwystr os nad oes bellach ei angen
• Ei gadw ble mae’r dyluniad presennol yn angenrheidiol a chymesur
• Addasu i wella hygyrchedd a chydymffurfiaeth gyda Chanllawiau Ddeddf Teithio Llesol
Cynhelir sesiynau galw heibio cychwynnol i roi cyfle i drigolion siarad yn uniongyrchol gyda swyddogion y Cyngor, rhoi sylw ar leoliadau’r rhwystrau, rhannu a thrafod profiadau a heriau ymarferol a wynebir wrth ddefnyddio’r rhwydwaith beicio.
Dyddiad: Dydd Gwener 28 Tachwedd 2025
Amser: 10:00am – 5:00pm
Lleoliad: Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, Chester Road West, Queensferry, Sir y Fflint, CH5 1SA
Dyddiad: Dydd Mawrth - 2 Rhagfyr 2025
Amser: 10:00am - 5:00pm
Lleoliad: Pafiliwn Jones Jade, Earl Street, Y Fflint, Sir y Fflint, CH6 5ER
Dyddiad: Dydd Iau 4 Rhagfyr 2025
Amser: 4:00pm – 8:00pm
Lleoliad: Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, Chester Road West, Queensferry, Sir y Fflint, CH5 1SA
Os canfyddir bod galw amdanynt, bydd digwyddiadau galw heibio ychwanegol yn cael eu trefnu ac i ehangu cyfranogiad, bydd ymgynghoriad ar-lein yn agor cyn y Nadolig a bydd ar gael tan y flwyddyn newydd. Bydd y cyfleoedd hyn i gymryd rhan yn cael eu hysbysebu’n eang ar wefan y Cyngor, trwy’r cyfryngau cymdeithasol ac yn y wasg leol.
Dywedodd yr Aelod Cabinet Gwastraff a Chludiant, y Cynghorydd Glyn Banks:
“Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i greu rhwydwaith beicio sy’n ddiogel, yn hygyrch ac yn groesawgar i’r holl ddefnyddwyr. Er eu bod weithiau’n angenrheidiol ar gyfer diogelwch a rheoli mynediad, gall rhwystrau gyflwyno heriau i rai defnyddwyr, gan gynnwys pobl sydd ag anableddau, defnyddwyr cymhorthion symudedd, teuluoedd sydd â phramiau, defnyddwyr beiciau a addaswyd, a beicwyr llai hyderus. Rydym eisiau ymgynghori’n uniongyrchol â grwpiau defnyddwyr arbenigol a chynrychiolwyr cymunedau diamddiffyn i sicrhau bod y penderfyniadau a wnawn yn cael eu harwain gan brofiadau bywyd a safbwyntiau ymarferol a byddwn yn annog cymaint â phosib o bobl i gymryd rhan a chael dweud eu dweud.
I gael mwy o wybodaeth, gall trigolion anfon e-bost at active.travel@flintshire.gov.uk neu ffonio 01352 701234.