Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
System Wresogi Arloesol Parc Gwepra
Published: 01/12/2025
Mae Cyngor Sir y Fflint yn gwresogi un o'i atyniadau mwyaf amlwg â system wresogi arloesol sy'n defnyddio ynni gwyrdd.
Mae Canolfan Ymwelwyr Parc Gwepra wedi trawsnewid ei system wresogi o foeler nwy cyffredin i bwmp gwres yr awyr ym mis Medi 2025.
Mae pwmp gwres yr aer yn ffordd arall o gynhesu adeiladau, sy’n defnyddio'r gwres o'r aer y tu allan a'i fwydo i'r system gwres canolog.
Mae hyn yn mynd â'r Cyngor gam yn nes at y targedau a nodir yn y Strategaeth Newid Hinsawdd, drwy gyfnewid cyflenwad gwresogi ein hadeiladau o nwy i drydan.
Mae'r ganolfan ar dariff ynni gwyrdd, sy'n golygu bod y trydan i gyd yn dod o ynni adnewyddadwy fel solar a phwer gwynt. Mae hyn yn golygu bod yr adeilad yn gweithredu ar sail egwyddor sero net gan ei fod yn gweithredu'n llwyr heb danwydd ffosil.
Drwy ddefnyddio cyfleoedd ariannu fel y grant Gwres Carbon Isel sy’n cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru ac sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer y prosiect hwn, mae'r Cyngor yn dangos ei ymrwymiad i leihau allyriadau carbon ledled y Sir.
Mae gosod pwmp gwres yr awyr yn un o ganolfannau ymwelwyr prif ystadau cefn gwlad y Sir yn fuddugoliaeth i fywyd gwyllt a'r gymuned, gan leihau allyriadau carbon, amddiffyn cynefinoedd a dangos bod gweithredu ar newid hinsawdd yn dechrau yng nghanol natur.
Dywedodd y Cynghorydd Dolphin, Aelod Cabinet yr Economi, yr Amgylchedd a Hinsawdd: “Mae’n wych gweld y Cyngor yn cymryd camau rhagweithiol tuag at leihau allyriadau ei adeiladau a chyrraedd targedau’r strategaeth newid hinsawdd, yn enwedig gydag adeilad fel Canolfan Ymwelwyr Parc Gwepra, sy’n un o nifer o atyniadau amlwg yn Sir y Fflint.”
