Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mam a gollodd ei mab i hunanladdiad yn croesawu cynllun gweithredu newydd ar gyfer Sir y Fflint
Published: 22/12/2025
Mae mam o Sir y Fflint a gollodd ei mab i hunanladdiad wedi cefnogi cynlluniau ar gyfer cynllun gweithredu ar draws y sir i helpu i atal teuluoedd eraill rhag profi’r un tor-calon.
Cyngor Sir y Fflint fydd un o’r Awdurdodau Lleol cyntaf yng Nghymru i ddatblygu cynllun gweithredu, gan adeiladu ar Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26, ar ôl i Gabinet y Cyngor gymeradwyo’r cynigion.
Roedd Louise Davies yn bresennol yn y cyfarfod. Cyflawnodd ei mab, Kai, hunanladdiad ym mis Hydref 2023, pan oedd ddim ond 22 oed.
Dywedodd Mrs Davies: “Un diwrnod aeth fy mab allan yn chwerthin a thynnu coes, yn fachgen hapus iawn, ac ni ddaeth adref.
“Mae’n rhaid derbyn unrhyw beth y gellir ei wneud i atal un teulu rhag mynd trwy’r boen rydym ni’n ei brofi bob dydd oherwydd na ddaeth ein mab adref. Mae’n rhaid i rhywbeth newid.
“Wna i fyth wybod pam na ddaeth Kai adref, fyth, oherwydd nid oedd unrhyw arwyddion.
“Mae’n golygu gymaint i mi sefyll o flaen pobl a chadw enw fy mab yn fyw, oherwydd dydw i fyth am i Kai gael ei anghofio. Rydw i eisiau helpu i atal un teulu, un plentyn, rhag profi’r boen y mae’n rhaid bod Kai yn ei deimlo, nad oeddem ni’n gwybod amdano.”
Pleidleisiodd y Cabinet yn unfrydol i gefnogi’r cynnig i greu cynllun gweithredu lleol i helpu i roi’r strategaeth genedlaethol newydd ar waith yn Sir y Fflint.
Bydd yn canolbwyntio ar leihau’r risg o hunanladdiad a hunan-niweidio, gan wella dealltwriaeth a chryfhau cefnogaeth ar gyfer unigolion, yn ogystal ag ar gyfer teuluoedd a chymunedau y mae hunanladdiad a hunan-niweidio yn effeithio arnynt.
Cyflwynwyd y cynnig gan y Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Gwastraff a Chludiant a’r Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet Tai a Chymunedau, a datblygwyd yr adroddiad gan Katie Wilby, Prif Swyddog Gwasanaethau Stryd a Chludiant.
Dywedodd y Cynghorydd Banks: “Roedd clywed yn uniongyrchol gan rhywun sydd wedi profi colled mor ddwys yn bwerus iawn gan ein hatgoffa pam mae’r gwaith hwn yn bwysig.
“Trwy gytuno i ddatblygu cynllun gweithredu ar draws y sir, rydym yn ymrwymo i wrando, dysgu a chydweithio â phartneriaid a chymunedau i helpu i atal hunanladdiad a hunan-niweidio ac i sicrhau bod pobl sydd wedi’u heffeithio yn cael y ddealltwriaeth a’r gefnogaeth maen nhw’n ei haeddu.”