Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Archwilio Dyfodol Safle Hen Gartref Gofal
Published: 24/12/2025
Mae Cyngor Sir y Fflint yn archwilio sut y gellir o bosibl, defnyddio hen safle Croes Atti yn y Fflint ar gyfer canolbwynt cymunedol i gefnogi plant a theuluoedd ar draws Sir y Fflint.
Mae’r Cyngor wedi sicrhau rownd gychwynnol o gyllid i gyflawni gwaith cynllunio a hyfywedd cynnar. Bydd hyn yn archwilio dewisiadau gwahanol ar gyfer y safle, gan gynnwys sut y gall gefnogi gwasanaethau cymorth cynnar ac ataliol ar gyfer teuluoedd, gan weithio ar y cyd â phartneriaid lleol.
Canolbwynt y gwaith fydd deall yr angen yn lleol ac ystyried sut y gall gwasanaethau ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd ddod ynghyd mewn ffordd fwy hygyrch, yn y gymuned.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol: “Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw hi i blant, pobl ifanc a theuluoedd allu cael mynediad at y cymorth iawn ar yr adeg iawn, yn agos i’w cymuned.
“Mae’r cyllid hwn yn rhoi cyfle i ni archwilio sut all yr hen safle Croes Atti gael ei ddefnyddio i gefnogi’r nod honno.”
Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi cael eu gwneud ar y cam hwn o ran dyfodol y safle. Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i ymgysylltu gyda phartneriaid a budd-ddeiliaid wrth i’r cynigion gael eu datblygu, gan sicrhau bod y cynlluniau yn gynaliadwy, cydweithredol ac yn cyd-fynd ag anghenion plant a theuluoedd Sir y Fflint.
Bydd mwy o wybodaeth yn cael ei rannu wrth i’r gwaith ddatblygu.