Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwelliannau diogelwch a theithio llesol i gylchfannau yn Ewlo
Published: 08/01/2026
Bydd gwaith i gyflawni gwelliannau diogelwch a theithio llesol i gylchfannau yn Ewlo yn dechrau’r mis hwn.
Bydd croesfannau newydd i gerddwyr yn cael eu cyflwyno ar y ffyrdd ymuno ac ymadael ger Cylchfan Ewlo, ynghyd â chroesfannau ychwanegol ger Cylchfan Dewi Sant, gan wella diogelwch a hygyrchedd yn sylweddol i gerddwyr ar draws yr ardaloedd prysur hyn.
Yn ogystal â’r croesfannau newydd, bydd troedffyrdd yn cael eu lledu a’u gwella, gan ddarparu mwy o le ac amgylchedd gwell i gerddwyr a phobl sy’n defnyddio llwybrau teithio llesol.
Mae’r cynllun, sydd wedi’i ddylunio ar y cyd ag Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru, wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.
Mae’r gwaith wedi’i drefnu i ddechrau ar 25 Ionawr 2026 a disgwylir y bydd yn para tan fis Mai 2026.
Yn ystod y cyfnod adeiladu, bydd amhariad anochel i draffig a siwrneiau lleol. Bydd mesurau rheoli traffig ar waith drwy gydol cyfnod y gwaith i gynnal diogelwch ar gyfer defnyddwyr y ffyrdd, cerddwyr, a’r gweithlu. Anogir holl ddefnyddwyr y ffyrdd i gynllunio eu siwrneiau ymlaen llaw a chaniatáu amser ychwanegol ar gyfer teithio drwy’r ardal.
Dywedodd y Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Gwastraff a Chludiant: “Mae’r cynllun hwn yn cynrychioli buddsoddiad pwysig mewn teithio llesol a diogelwch cerddwyr wrth y cylchfannau prysur hyn yn Ewlo.
“Rydym yn gwybod y bydd y gwaith yn achosi anghyfleustra tymor byr, ac rydym yn diolch i bawb am eu hamynedd wrth i’r gwelliannau hirdymor hyn gael eu gwneud.”
Bydd mwy o ddiweddariadau yn cael eu darparu wrth i’r gwaith ddatblygu.