Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Fêps, tybaco ac alcohol anghyfreithlon wedi’u hatafaelu mewn ymgyrch safonau masnach

Published: 09/01/2026

Mae fêps a thybaco anghyfreithlon wedi cael eu hatafaelu mewn cyrch mewn siop gyfleustra yn yr Wyddgrug.

Cafodd y siop ei dargedu mewn ymgyrch ar y cyd gan Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint, Heddlu Gogledd Cymru a’r Gwasanaethau Mewnfudo.

Cafodd swm sylweddol o dybaco anghyfreithlon ei atafaelu ynghyd â fêps anghyfreithlon ac alcohol ffug tybiedig.

Cyflawnwyd yr ymgyrch fel rhan o fenter genedlaethol o’r enw Ymgyrch CeCe, ymgyrch gorfodi gyda’r nod o darfu ar y cyflenwad o dybaco anghyfreithlon a chynnyrch cysylltiedig, a all beri risgiau difrifol i iechyd y cyhoedd a thanseilio busnesau lleol cyfreithlon.

Meddai’r Cynghorydd Ted Palmer, Aelod Cabinet Priffyrdd, Asedau a Gwarchod y Cyhoedd: “Nid yw gwerthu tybaco a fêps anghyfreithlon ac alcohol ffug yn drosedd heb ddioddefwyr. Yn aml mae’r cynnyrch hyn yn osgoi gwiriadau diogelwch, sy’n rhoi iechyd pobl mewn risg.

“Mae gwerthiant anghyfreithlon y cynnyrch hyn hefyd yn tynnu arian i ffwrdd oddi ar fasnachwyr lleol gonest sy’n gweithredu o fewn y gyfraith, ac yn aml mae’n gysylltiedig â gweithgarwch troseddol ehangach.

“Mae’r ymgyrch hwn yn dangos ein hymrwymiad parhaus i weithio gyda phartneriaid er mwyn mynd i’r afael â masnachu anghyfreithlon a diogelu ein cymunedau. Ni oedwn i weithredu pan fydd pryderon yn cael eu codi.”

Anogir preswylwyr i adrodd am werthiannau anghyfreithlon honedig i Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint, trwy anfon e-bost at trading.standards@flintshire.gov.uk