Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Arolygwyr Estyn yn canmol ysgol yn Sir y Fflint

Published: 09/01/2026

Mae ysgol gynradd yn Sir y Fflint yn dathlu ar ôl i Estyn ganmol ethos cryf yr ysgol, eu disgwyliadau uchel ac amgylchedd ddysgu feithringar.

Gwelodd yr arolygwyr a ymwelodd ag Ysgol y Llan, Chwitffordd, bod y disgyblion yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu gwerthfawrogi a’u bod yn barod i ddysgu, ac yn dangos ymddygiad rhagorol yn gyson, gydag agweddau cadarnhaol a brwdfrydedd tuag at ddysgu.

Cafodd yr addysgu ei ganmol am fod yn ddiddorol ac yn briodol o ran herio, gyda chwestiynu effeithiol ac adborth sy’n cefnogi cynnydd disgyblion. Cafodd amgylcheddau dysgu’r ysgol, gan gynnwys yr ardaloedd awyr agored eu cydnabod am hyrwyddo annibyniaeth a chwilfrydedd.

Canmolodd Estyn ganolbwynt cryf yr ysgol tuag at les a chynhwysiant, ynghyd â’i bartneriaethau cadarnhaol gyda rheini, yr eglwys leol a’r gymuned ehangach.

Dywedodd y Pennaeth, Mr Tomos Williams: “Rwy’n hynod o falch o ganlyniad yr arolwg Estyn diweddar ar gyfer Ysgol y Llan. Mae’r adroddiad yn adlewyrchu'r gymuned ysgol gynnes, ofalgar ac uchelgeisiol yr ydym yn gweithio’n galed i’w feithrin bob dydd.

“Yr hyn a amlygwyd fwyaf yn ystod yr arolwg oedd ein disgyblion. Roedd eu hymddygiad, cwrteisi ac agwedd gadarnhaol i ddysgu yn rhagorol, ac roeddent wedi cynrychioli ein hysgol gyda hyder a balchder.

“Roedd yr arolygwyr yn cydnabod y disgwyliadau uchel sydd gennym ar gyfer holl ddysgwyr, ynghyd â’n canolbwynt cryf ar les, cynhwysiant a phrofiadau dysgu ystyrlon.

“Roedd yr arolwg hwn yn ymdrech tîm. Hoffwn ddiolch i’n staff ymroddgar am eu hymrwymiad a phroffesiynoldeb, i’n llywodraethwyr am eu cefnogaeth barhaus a her, a’n rhieni, gofalwyr a’r gymuned ehangach am weithio mor gadarnhaol gyda’r ysgol. Mae wir yn deulu arbennig ac rwy’n caru’r gwaith rydym yn ei wneud yma.

“Rydym yn falch o’r adroddiad hwn, ond rydym yn parhau i ymroi i adeiladu ar y cryfderau hyn wrth i ni barhau i ddarparu’r addysg gorau bosibl ar gyfer ein plant.”