Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ymgynghoriad – rhwystrau'r rhwydwaith beicio lleol
Published: 14/01/2026
Mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnal adolygiad o rwystrau ar draws y rhwydwaith beicio lleol i sicrhau bod llwybrau yn ddiogel, yn hygyrch ac yn gynhwysol i’r holl ddefnyddwyr.
Mae’r adolygiad yn rhan o Asesiad o Effaith Cynhwysol y Cyngor, sy’n gwerthuso pob rhwystr o ran hygyrchedd, diogelwch, a chydymffurfiaeth â Chanllawiau Deddf Teithio Llesol (2021).
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i greu rhwydwaith beicio sy’n ddiogel, yn hygyrch ac yn groesawgar i’r holl ddefnyddwyr. Er eu bod weithiau’n angenrheidiol ar gyfer diogelwch a rheoli mynediad, gall rhwystrau gyflwyno heriau i rai defnyddwyr, gan gynnwys pobl sydd ag anableddau, defnyddwyr cymhorthion symudedd, teuluoedd sydd â phramiau, defnyddwyr beiciau a addaswyd, a beicwyr llai hyderus. Rydym eisiau ymgynghori’n uniongyrchol â grwpiau defnyddwyr arbenigol a chynrychiolwyr cymunedau diamddiffyn i sicrhau bod y penderfyniadau a wnawn yn cael eu harwain gan brofiadau bywyd a safbwyntiau ymarferol a byddwn yn annog cymaint â phosib o bobl i gymryd rhan a chael dweud eu dweud.
Mae pob rhwystr yn cael ei asesu’n unigol, a gall argymhellion gynnwys:
• Tynnu’r rhwystr os nad oes bellach ei angen
• Ei gadw ble mae’r dyluniad presennol yn angenrheidiol a chymesur
• Addasu i wella hygyrchedd a chydymffurfiaeth gyda Chanllawiau Ddeddf Teithio Llesol
Cyn Nadolig 2024 cynhaliwyd sesiynau galw heibio cyhoeddus cychwynnol i roi cyfle i drigolion siarad yn uniongyrchol gyda swyddogion y Cyngor, rhoi sylw ar leoliadau’r rhwystrau, rhannu a thrafod profiadau a heriau ymarferol a wynebir wrth ddefnyddio’r rhwydwaith beicio.
Mae dwy sesiwn galw heibio pellach wedi cael eu trefnu:
Dyddiad: 23 Ionawr 2026
Amser: 10am tan 4pm
Lleoliad: Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, Chester Road West, Queensferry, Sir y Fflint, CH5 1SA
Dyddiad: 26 Ionawr 2026
Amser: 10am - 4pm
Lleoliad: Sir y Fflint yn Cysylltu, Hen Neuadd y Dref, Heol Fawr, Treffynnon, CH8 7TD
Mae ymgynghoriad ar-lein hefyd ar gael ar wefan y cyngor.
Er bod yr ymgynghoriad yn darparu cyfle i bobl gael dweud eu dweud ar gyfanswm o 79 o rwystrau gwahanol mewn amryw o leoliadau ar draws arfordir Sir y Fflint, dylech ond ddarparu adborth ar y rhwystrau y mae gennych ddiddordeb penodol ynddynt.
Er mwyn gwneud hyn yn haws mae’r ffurflenni adborth wedi cael eu rhannu i ardaloedd daearyddol ac mae ffotograff yn cyd-fynd gyda phob rhwystr er mwyn eu hadnabod yn haws.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn eich adborth yw 5pm ar ddydd Gwener 30 Ionawr 2026.