Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwaith caled timau graeanu yn cadw Sir y Fflint i fynd

Published: 16/01/2026

Mae timau priffyrdd Sir y Fflint wedi bod yn gweithio’n ddi-baid i gadw ffyrdd yn ddiogel ac yn hygyrch yn ystod y tywydd gaeafol a brofwyd yn ystod y bythefnos ddiwethaf.

Gyda dechrau rhewllyd i’r Flwyddyn Newydd, aeth cerbydau graeanu Sir y Fflint ar waith yn lledaenu miloedd o dunelli o raean ar hyd rhwydwaith ffyrdd y sir, gan ymateb i broblemau yn ymwneud â’r tywydd a lleihau amhariad.

Roedd timau’n gweithio 24 awr y dydd yn ystod y digwyddiad o dywydd parhaus, gan sicrhau eu bod yn graeanu prif lwybrau, a oedd wedi’u trin 34 gwaith dros gyfnod o 11 diwrnod.

Teithiodd y cerbydau graeanu bron i 12,000 o filltiroedd rhyngddynt ac wedi lledaenu dros 2,600 tunnell o halen, gydag amser staff ar y ffyrdd yn dod i gyfanswm o 1,900 awr.

Roedd eu hymdrechion yn golygu nad oedd amhariad i’r rhwydwaith ffyrdd, er y tymereddau rhewllyd a’r eira a ddaeth gyda Storm Goretti.

Meddai’r Cynghorydd Ted Palmer, Aelod Cabinet ar gyfer Priffyrdd, Asedau a gwarchod y Cyhoedd: “Mae gwaith caled timau’r priffyrdd wedi cadw Sir y Fflint i symud yn ystod cyfnod heriol o dywydd garw.

“Mae cadw ein ffyrdd yn hygyrch yn hollbwysig i fusnesau lleol allu aros ar agor, gyda theithwyr yn teithio i, ac o’r gwaith, plant yn mynd i’r ysgol, a sicrhau bod cerbydau’r gwasanaethau brys yn gallu mynd at y bobl sydd eu hangen heb oedi.

Hoffwn ddiolch i’n criwiau am eu hymrwymiad, gan weithio o amgylch y cloc i leihau amhariad a chadw preswylwyr yn saff yn ystod amodau rhewllyd.”

Bydd y cyngor yn parhau i fonitro'r amodau dros y penwythnos ac i mewn i'r wythnos nesaf.