Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Trosglwyddo canolbwynt cymorth newydd i Gyngor Sir y Fflint ym mis Chwefror

Published: 20/01/2026

Bydd canolbwynt cymunedol pwrpasol newydd ar gyfer oedolion gydag anableddau dysgu, awtistiaeth ac anghenion iechyd meddwl yn cael ei drosglwyddo i Gyngor Sir y Fflint fis nesaf.

Mae cwblhau cyfleuster Coed y Ddraig yn Yr Wyddgrug yn garreg filltir arwyddocaol ar gyfer y prosiect gwerth miliynau o bunnoedd, sy’n anelu i drawsnewid cymorth dydd a chyfleoedd gwaith yn Sir y Fflint.

Bydd y cyfleuster newydd yn dod â sawl gwasanaeth presennol ynghyd dan un to ac yn darparu lle ar gyfer rhai newydd.

Bydd Coed y Ddraig yn cael ei weithredu o ddydd i ddydd gan Hft. Bydd gwasanaethau sy’n cael eu cynnig ar hyn o bryd gan Hft ar safle Tri Ffordd yn Bretton yn cael eu hadleoli i’r safle newydd, ynghyd â datblygu gwasanaeth cymorth awtistiaeth newydd.

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) hefyd yn defnyddio’r gofod i barhau â darpariaeth gwasanaeth cyfredol. Mae lle pwrpasol ar gael i’w ddefnyddio gan y bwrdd iechyd a fydd yn galluogi ymyriadau therapiwtig gan Therapi Galwedigaethol a Ffisiotherapi. Mae’r gofod hwn hefyd yn cynnig cyfle i ehangu’r ystod o leoliadau ar gyfer ymyriad clinigol priodol gan ystod ehangach o dimau clinigol.

Mae’r datblygiad, a gwblhawyd gan MPH Construction, wedi bod yn bosibl diolch i gyllid cyfalaf o £2.7 miliwn gan Gyngor Sir y Fflint a £2.9 miliwn o Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ail-gydbwyso Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Cafodd y prosiect, a oedd i fod i gael ei gwblhau yn 2025 yn wreiddiol, ei oedi oherwydd sefydlu cyflenwad ynni ar y safle a oedd tu hwnt i reolaeth y Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles:  “Mae’r broses drosglwyddo sydd ar fin digwydd gyda chyfleuster Coed y Ddraig yn nodi carreg filltir fawr yn y prosiect pwysig hwn, sy’n cynrychioli buddsoddiad sylweddol yn nyfodol gwasanaethau cymorth yn Sir y Fflint.

“Bydd y cyfleuster pwrpasol hwn yn caniatáu i ni ddod â gwasanaethau ynghyd o dan un to, ehangu capasiti, a darparu cymorth o safon uchel i oedolion ag anableddau dysgu, awtistiaeth ac anghenion iechyd meddwl.”

Dywedodd Clair Johnson, Rheolwr Cyfleoedd Dydd, Hft: “Rydym yn falch iawn o weithredu Coed y Ddraig mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae’r canolbwynt cymunedol pwrpasol hwn yn cynrychioli cam mawr ymlaen o ran darparu cyfleoedd o safon sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn hft.

“Trwy ddod â gwasanaethau ynghyd mewn un gofod modern a chynhwysol, bydd Coed y Ddraig yn cynnig mwy o ddewis ac yn parhau i rymuso pobl i feithrin sgiliau, hyder ac annibyniaeth yn eu cymuned leol. Gan weithio ochr yn ochr â grwpiau cymunedol eraill rydym yn gobeithio darparu adnodd cymunedol gwerthfawr.”

Dywedodd Nesta McCluskey, Cyfarwyddwr Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd Cymunedol Iechyd Integredig y Dwyrain BIPBC:  “Rydym yn falch iawn o fod yn bartner Cyngor Sir y Fflint yn natblygiad Coed y Ddraig. Bydd y gofod pwrpasol hwn yn caniatáu ar gyfer mwy o waith ar y cyd, gydag ystod o therapïau ar gael i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

“Mae Coed y Ddraig yn enghraifft ardderchog arall o ymrwymiad y Bwrdd Iechyd i weithio mewn partneriaeth, i ddarparu gwasanaethau modern sy’n addas ar gyfer y dyfodol. Rydym yn edrych ymlaen at symud i’r adeilad newydd a chroesawu ein defnyddwyr gwasanaeth cyntaf i elwa ohono.”

Dywedodd Rhys Edwards, Rheolwr Masnachol MPH Construction:  “Fel contractwr yn Sir y Fflint, rydym yn falch iawn o ddarparu Coed y Ddraig ar gyfer y gymuned leol. Gan weithio’n agos gyda Chyngor Sir y Fflint a’n partneriaid prosiect lleol, mae hwn wedi bod yn brosiect cydweithredol go iawn o’r dechrau i’r diwedd, yn seiliedig ar nodau cyffredin a pherthynas gref.

“Mae’n rhoi boddhad mawr i ni rwan i gyflwyno cyfleuster pwrpasol o safon sy’n adlewyrchu anghenion y gymuned a bydd yn darparu manteision hirdymor, gan wneud gwahaniaeth cadarnhaol, go iawn i fywydau pobl am flynyddoedd i ddod.”

Dywedodd Sarah Murphy, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: “Mae’n wych bod datblygiad Coed y Ddraig ar fin cael ei drosglwyddo i Gyngor Sir y Fflint. Bydd pobl ag anableddau dysgu, awtistiaeth ac anghenion iechyd meddwl yn gallu cael mynediad at ystod o wasanaethau cymorth, therapïau ac ymyraethau clinigol yn y ganolfan bwrpasol hon.

“Mae’r prosiect yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan mae sefydliadau’n gweithio gyda’i gilydd. Rwyf yn falch iawn bod ein buddsoddiad £2.9 miliwn wedi helpu i sicrhau’r modelau gofal integredig, newydd ar gyfer Sir y Fflint, ac rydym yn eu blaenoriaethu ar draws Cymru.”