Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mae giatiau newydd yn gwella diogelwch a hygyrchedd ar lwybrau cerdded poblogaidd
Published: 23/01/2026
Mae sawl llwybr troed poblogaidd yn ardal Caergwrle wedi cael eu gwella’n fawr drwy osodiadau diweddar gan Wasanaeth Mynediad a’r Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint a chontractwyr lleol.
Gyda chyllid drwy Grant Gwella Mynediad Llywodraeth Cymru, bydd 11 o gamfeydd wedi cael eu tynnu a’u disodli â dewisiadau mynediad hawdd eraill fel giât mochyn neu giât ar wahân.
Bydd y manteision yn cael eu gwerthfawrogi gan y rhai hynny sy’n dilyn Llwybr Cysylltu Cymru a’r llwybr o Lanfynydd i Gaergwrle o fewn prosiect Llwybrau i Lesiant Cerddwyr Cymru.
Mae hyn hefyd yn cael ei wneud ar amser da ar gyfer y rhai hynny sydd wedi mynnu copi o’r llyfryn Teithiau Cerdded Gwledig Sir y Fflint a gafodd ei ailgyhoeddi’n ddiweddar, ac sydd eisiau mynd am dro ar hyd llwybr Caergwrle.
Mae gan y penderfyniad i symud oddi wrth gamfeydd a throi at ddewisiadau gwell lawer iawn o fanteision ar gyfer defnyddiwr y llwybr a’r tir feddiannwr.
Mae giatiau’n llawer haws i’w defnyddio, yn enwedig gan bobl gyda llai o symudedd, ac mae absenoldeb grisiau yn eu gwneud yn fwy diogel i’w defnyddio hefyd.
Mae cael gwared ar gamfeydd yn lleihau cyfrifoldeb cynnal a chadw ar gyfer y tirfeddiannwr ac mae gan giatiau ddisgwyliad oes gwell cyn gorfod eu hadnewyddu, gan arwain at lai o boeni am ffiniau ac atal da byw rhag dianc.
Mae Tîm Mynediad Sir y Fflint yn parhau i fod yn ddiolchgar am gydweithrediad tir feddianwyr, a chefnogaeth gan y cyhoedd mewn perthynas â’n nod i gynnal y rhwydwaith o lwybrau troed a llwybrau ceffylau i safon uchel.
Mae’r gwaith i wella ein rhwydwaith Hawliau Tramwy yn Sir y Fflint, sy’n cwmpasu 1,089km, wedi’i gynorthwyo’n fawr gan Grant Gwella Mynediad Llywodraeth Cymru ac rydym yn gobeithio y bydd y gefnogaeth hon yn cael ei chynnal yn y dyfodol.