Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Nwyddau anghyfreithlon wedi'u hatafaelu o siopau Sir y Fflint
Published: 29/01/2026
Mae sigaréts, tybaco a fêps anghyfreithlon wedi cael eu hatafaelu mewn cyrchoedd mewn dwy siop yn Sir y Fflint.
Cynhaliodd Swyddogion Safonau Masnach o Gyngor Sir y Fflint ymgyrch ar y cyd lwyddiannus gyda’r gwasanaeth Gorfodi Mewnfudo ar y safle yn y Fflint a Threffynnon.
Nodwyd cynhyrchion anghyfreithlon yn y ddwy siop, a chafodd y rhain eu targedu o ganlyniad i wybodaeth a chwynion.
Yn y Fflint, atafaelwyd 104 pecyn o sigaréts ffug a 16 cwdyn o dybaco rholio â llaw ffug, ynghyd â nifer o sigaréts defnydd untro tafladwy anghyfreithlon.
Atafaelwyd 68 pecyn arall o sigaréts ffug a 30 cwdyn o dybaco rholio â llaw ffug o'r siop yn Nhreffynnon. Amcangyfrifir mai cyfanswm gwerth y cynhyrchion a atafaelwyd yn y ddau gyrch oedd £1,370.
Meddai’r Cynghorydd Ted Palmer, Aelod Cabinet Priffyrdd, Asedau a Gwarchod y Cyhoedd: “Mae’r ymgyrch lwyddiannus ddiweddaraf hon yn dangos ein hymrwymiad parhaus i amddiffyn ein trigolion drwy fynd i’r afael â’r math hwn o weithgarwch anghyfreithlon.
“Mae gwerthu cynhyrchion tybaco a fêps anghyfreithlon yn peri risg ddifrifol i iechyd y cyhoedd, gan nad ydyn nhw'n destun yr un gwiriadau diogelwch â chynhyrchion dilys.
“Mae hefyd yn tanseilio masnach busnesau lleol cyfreithlon, ac yn aml mae'n gysylltiedig ag achosion o droseddu cyfundrefnol ehangach.
“Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda sefydliadau partner i roi stop ar weithgarwch o’r fath a chymryd camau gweithredu priodol pellach lle bo modd.”
Anogir preswylwyr i adrodd am werthiannau anghyfreithlon honedig i Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint, trwy anfon e-bost at trading.standards@flintshire.gov.uk