Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwobr Genedlaethol i Wasanaethau Profedigaeth Sir y Fflint

Published: 09/02/2026

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cael ei gydnabod gyda gwobr genedlaethol am ei Wasanaethau Profedigaeth am yr ail flwyddyn yn olynol.

Cafodd y Cyngor ei enwi fel y perfformiwr gorau yng nghategori Gwasanaethau Mynwentydd ac Amlosgfeydd yng ngwobrau Rhwydwaith Perfformiad Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus (APSE).APSE Awards photo.jpg

Caiff yr enillwyr eu penderfynu yn seiliedig ar ddata sy’n cael ei rannu gyda Chymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus gan Awdurdodau Lleol ar draws y DU, sy’n ymdrin â phopeth o reolaeth ariannol, staff a rheolaeth weithredol, i bolisïau ac achrediadau.

Dyma’r ail flwyddyn yn olynol y mae Cyngor Sir y Fflint wedi dod i’r brig yng nghategori Gwasanaethau Mynwentydd ac Amlosgfeydd, allan o tua 50 o Awdurdodau Lleol cymwys, ar ôl cael ei gydnabod yn y gorffennol fel y gwasanaeth sydd wedi gwella fwyaf.

Mae’r gydnabyddiaeth yma yn golygu bod Awdurdodau Lleol eraill yn defnyddio perfformiad y Cyngor fel enghraifft i feincnodi yn ei erbyn.

Mae Gwasanaethau Profedigaeth Sir y Fflint yn gyfrifol am reoli 15 Mynwent ac wyth mynwent Eglwys gaeëdig ledled y Sir, yn cynnwys pob agwedd o waith cynnal a chadw tir, ynghyd â thua 450 o gladdedigaethau bob blwyddyn. Mae’r tîm yn cynnal Rhaglen Diogelwch Cofebion ar tua 20,000 o gofebion yn flynyddol ac yn cynnal tua 25 o Angladdau Iechyd Cyhoeddus bob blwyddyn.

Cafodd enillwyr Gwobrau Rhwydwaith Perfformiad Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus eu cyhoeddi mewn seremoni yn Blackpool.

Meddai’r Cynghorydd Ted Palmer, Aelod Cabinet Priffyrdd, Asedau a Gwarchod y Cyhoedd: “Rydym ni’n eithriadol o falch o’n tîm Gwasanaethau Profedigaeth am eu gwaith caled a’u hymroddiad i gyflwyno gwasanaeth o’r radd flaenaf.

“Mae’r tîm yn darparu gwasanaeth hollbwysig i bobl Sir y Fflint ar adegau sydd ymysg y rhai anoddaf yn eu bywyd, ac maen nhw’n gwneud hynny gyda phroffesiynoliaeth a thrugaredd.

“Mae’r ffaith bod eu hymdrechion wedi cael eu cydnabod unwaith eto yn brawf o’r safonau uchel maent yn eu cyflawni bob dydd.”

Corff nid-er-elw ydi Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus sydd yn hyrwyddo rhagoriaeth wrth gyflawni gwasanaethau rheng flaen i gymunedau lleol ar draws y DU. Mae’n gweithio gyda mwy na 300 o Awdurdodau Lleol.