Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwyddiant dwbl ar gyfer tîm tad a merch Cyngor Sir y Fflint

Published: 12/02/2026

Mae tad a merch o Sir y Fflint yn dathlu ar ôl ennill prif anrhydedd yng Ngwobrau Dysgu Seiliedig ar Waith Gogledd Cymru.

Enwyd Lola Morris, Gweithiwr Chwarae o fewn tîm Datblygu Chwarae Cyngor Sir y Fflint yn Brentis Gofal Plant y Flwyddyn yn y seremoni yn Venue Cymru, Llandudno.

Yn ei chefnogi, oedd ei thad - a’i rheolwr - Darren Morris, Prif Swyddog Datblygu Chwarae, a enillodd Cyflogwr Dysgu Seiliedig ar Waith y Flwyddyn ei hun.

Mae’r gwobrau yn cael eu cynnal gan Busnes@LlandrilloMenai bob blwyddyn, ac yn cyd-fynd ag Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau. Maent yn dathlu cyraeddiadau’r sawl sy’n datblygu eu gyrfaoedd drwy ddysgu yn y gweithle a phrentisiaethau, yn ogystal â’r cyflogwyr sy’n eu cefnogi.

Mae Lola, sydd wedi cwblhau ei Lefel 2 Gwaith Chwarae yn ddiweddar, nawr yn gweithio tuag at Lefel 3, a chafodd ei chydnabod am ei hymrwymiad i ddysgu, a’i gallu i gymhwyso gwybodaeth newydd i’w hymarfer.

Meddai darparwr hyfforddiant Lola, Achieve More Training, am ei henwebiad: “Mae ei synnwyr o bwrpas, parodrwydd i ddysgu, ac ymrwymiad i greu cyfleoedd chwarae cadarnhaol ac ystyrlon yn ei gwneud yn fodel rôl ysbrydoledig ar gyfer prentisiaid eraill."

Yn y cyfamser, cafodd y tîm Datblygu Chware, a arweinir gan Darren, ei gymeradwyo am greu diwylliant lle mae prentisiaid yn teimlo’n ddiogel i fod yn onest am heriau, yn gwthio eu hunain, ac yn magu hyder.

Meddai Darren: “Roeddwn i’n teimlo’n hynod falch cael fy enwebu am Wobr Cyflogwr y Flwyddyn, ond roedd ennill yn anhygoel.

“Mae’n gydnabyddiaeth o’r gefnogaeth, canllawiau, a’r cyfleoedd ‘rydym yn buddsoddi ynddynt er mwyn datblygu ein staff, gan wneud y mwyaf o lwybrau prentisiaethau gyda darparwyr megis Achieve More Training.

“Mae cael enwebiad ar y cyd gyda Lola yn gwneud popeth yn fwy arbennig.

“Rwy’n falch iawn o’i chyraeddiadau, gan ennill Gwobr Prentis Gofal Plant y Flwyddyn, fel yr wyf o gyraeddiadau bob aelod o’n tîm.”

Ychwanegodd Lola: Hoffwn ddweud diolch yn fawr i’m haseswr Chloe Gibson a helpodd fi i gwblhau fy mhrentisiaeth, ac am roi fy enw ymlaen ar gyfer y wobr hon, a hoffwn ddweud diolch i dad, a fy rheolwr llinell, Darren Morris, sydd wedi fy annog i ddilyn y brentisiaeth.  Mae dathlu’r cyflawniad hwn gyda’n gilydd yn ei wneud llawer mwy ystyrlon.”

Mae Busnes@LlandrilloMenai yn darparu cyrsiau dysgu seiliedig ar waith, prentisiaethau a hyfforddiant proffesiynol gyda Grwp Llandrillo Menai.